Neidio i’r prif gynnwys

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod yn rhyddhau ein hadroddiad blynyddol Blwyddyn 1 ar Hwb Carbon Sero Cymru. Sefydlwyd Hwb Carbon Sero Cymru ym mis Mai 2023, ac fe’i comisiynwyd gan Gymdeithas Tai ClwydAlyn gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Nod y fenter, a gefnogir am dair blynedd, yw creu hwb rhannu gwybodaeth i helpu i gyflawni nodau lleihau carbon Cymru mewn cartrefi newydd a chartrefi presennol. Yn ein cyfnod cychwynnol, rydym wedi bod yn datblygu adnoddau a swyddogaethau ar-lein trwy ein gwefan, wedi cynnal arolygon ac ymgynghoriadau, ac wedi ffurfio pedwar grŵp cynghori diwydiant. Ein ffocws cychwynnol yw’r sector tai cymdeithasol.

Rydym hefyd yn anelu at fod yn adnodd canolog ar gyfer yr arferion gorau, gan dynnu ar brosiectau arloesol yn y DU. Ariennir Hwb Carbon Sero Cymru gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei arwain gan grŵp llywio sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, ClwydAlyn, Cartrefi Cymunedol Cymru, ac eraill. Mae partneriaid cyflawni allweddol yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, Good Homes Alliance a TrustMark.

Darllenwch ein hadroddiad blynyddol