Rydym yn gyffrous i gyhoeddi lansiad cwrs hyfforddi e-ddysgu Hwb Carbon Sero Cymru. Cynlluniwyd y cwrs hwn i gefnogi landlordiaid cymdeithasol / awdurdodau lleol / arolygwyr safleoedd cymdeithasau tai a rheolwyr prosiect.
Rydym wedi datblygu’r cwrs fel set o fodiwlau sy’n cael eu cyflwyno gan arbenigwyr yn y diwydiant i gwmpasu’r wybodaeth a sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gyrraedd safonau sero net ar gyfer prosiectau adeiladu newydd ac ôl-osod.
Bydd y cwrs hefyd yn amlygu peryglon a strategaethau cyffredin a sut i’w hosgoi, gan sicrhau bod cartrefi’n bodloni safonau’r diwydiant.
Modiwlau
Mae’r rhaglen hyfforddi’n cynnwys naw modiwl, pob un yn canolbwyntio ar agweddau ar dai sero net, ac mae ar gael trwy ein platfform e-ddysgu ar-lein:
- Cefndir Polisïau a Rheoliadau Tai Cymdeithasol Cymru
- Sylfaen: Cyflwyniad i Adeiladu Cynaliadwy
- PAS 2030/2035: Ôl-osod ar gyfer Arolygwyr Safle a Rheolwyr Prosiect
- Monitro, Adrodd a Lleihau Allyriadau Carbon
- Canllawiau ar gyfer Pympiau Gwres a Phaneli Solar Ffotofoltäig
- Aerglosrwydd: Ôl-osod Cartrefi
- Colli Gwres mewn Cartrefi Newydd
- Dulliau Adeiladu Modern ar gyfer Cartrefi Adeiladu o’r Newydd
- Awyru: Ôl-osod ac Adeiladu Cartrefi Newydd
- Mynd ati i Werthuso Perfformiad Adeiladau
Ar gyfer pob modiwl a gwblhawyd, dyfernir tystysgrif i gyfranogwyr.
Cost
Mae modiwlau’r cwrs yn rhad ac am ddim i’r 200 sydd yn cofrestru gyntaf ac sy’n weithwyr proffesiynol yng Nghymru sy’n gweithio i awdurdod lleol neu gymdeithas dai. Rydym yn rhagweld y bydd modiwlau’r cwrs ar gael i ddysgwyr y tu allan i Gymru yn y dyfodol agos.
Cofrestru
I gofrestru ar gyfer y cwrs, cwblhewch y ffurflen isod.