Neidio i’r prif gynnwys

Ar 24 Ebrill 2024, yn y Pafiliwn yn Llandrindod, lansiwyd Hwb Carbon Sero Cymru.

Roedd 110 o gynrychiolwyr yn bresennol ynghyd â thîm yr Hwb Carbon Sero a chynrychiolwyr o grŵp llywio’r Hwb.

Cadeirydd y diwrnod oedd Elfed Roberts o Grŵp Pobl, sydd hefyd yn aelod o grŵp llywio’r Hwb.

Dechreuodd y digwyddiad gydag anerchiad fideo gan Julie James AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

Dilynwyd hyn gan nifer o gyflwyniadau. Cyflwynwyd yr Hwb yn gyntaf ac yna tair astudiaeth achos o’r Rhaglen Tai Arloesol a’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio.

Ar ôl cinio, cyflwynwyd y grwpiau cynghori diwydiant i’r cynrychiolwyr gan eu cadeiryddion / aelod arweiniol priodol.

Yna cynhaliwyd pedair sesiwn grŵp, yn seiliedig ar y pedwar grŵp cynghori diwydiant y mae’r Hwb wedi’u creu:

Grŵp Cynghori’r Diwydiant – Polisi

Daeth nifer o themâu allweddol i’r amlwg yn ystod y sesiwn. Un maes arwyddocaol a drafodwyd oedd y cysyniad o sero net. Pwysleisiwyd bod diffiniad clir a chyson yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer dealltwriaeth defnyddwyr. Teimlwyd hefyd fod angen i unrhyw arloesedd ddefnyddio metrigau ynni’r byd go iawn yn hytrach na metrigau wedi’u modelu ac mae angen iddo ystyried deiliaid tai a’u hadborth.

Grŵp Cynghori’r Diwydiant – Sgiliau a Hyfforddiant

Amlygwyd sawl mater yn y trafodaethau, gan gynnwys yr angen am well rhaglenni hyfforddi a phrinder gweithwyr proffesiynol medrus yn dod i mewn i’r sector. Pryder sylweddol arall oedd y diffyg hyfforddwyr sydd ar gael, gan fod llawer o unigolion cymwys yn ffafrio aros yn y maes yn hytrach na chyflawni rolau hyfforddi. Un ateb arfaethedig oedd annog gweithwyr proffesiynol y diwydiant sydd wedi ymddeol i ddod yn hyfforddwyr. Ar nodyn cadarnhaol, roedd dileu’r cap ar hyfforddiant gwyrdd a chyflwyno cyllid sgiliau hyblyg yn cael eu hystyried yn gamau mawr ymlaen.

Grŵp Cynghori’r Diwydiant – Cyllid ac Arloesi

Amlygwyd y cyllid sydd ar gael ar gyfer adeiladau newydd fel datblygiad cadarnhaol, ynghyd â ffocws mewn dogfennau polisi ar leihau’r galw am ynni yn hytrach na dibynnu’n llwyr ar raddfeydd Tystysgrifau Perfformiad Ynni neu’r Weithdrefn Asesu Safonol. Er bod arloesedd yn cael ei annog, mae amharodrwydd arianwyr ac yswirwyr i gefnogi technolegau newydd yn aml yn gallu cyfyngu ar eu defnydd. Er mwyn mynd i’r afael â’r rhwystr hwn, pwysleisiwyd pwysigrwydd ymgysylltu ag yswirwyr a chyllidwyr.

Grŵp Cynghori’r Diwydiant – Y Gadwyn Gyflenwi

Trafodwyd y ffaith bod awydd i hyfforddi ac uwchsgilio darparwyr tai a bod rhwydweithiau a gweithgynhyrchwyr ynni yn awyddus i ymgysylltu â’r diwydiant. Cafwyd trafodaethau ynghylch sut y gall materion gyda safonau amharu ar y gadwyn gyflenwi – er enghraifft, teimlwyd bod datblygu safonau yn ysbeidiol, gan ei gwneud hi’n anodd uwchsgilio’r gadwyn gyflenwi mewn modd amserol, a theimlwyd hefyd fod bwlch rhwng PAS 2030/35 ac arfer gorau gan ei fod yn rhy fiwrocrataidd.

 

Roedd rhywfaint o gysondeb ar draws y grwpiau o ran sut y gall yr Hwb helpu i gefnogi’r sector. Roedd y rhain yn cynnwys rhannu gwybodaeth rhwng landlordiaid cymdeithasol cofrestredig / cymdeithasau tai a thenantiaid, hwyluso mwy o gydweithio o fewn y sector, cynnal cynhadledd flynyddol i helpu i rannu arfer gorau, ac arwain meddwl strategol. Nodwyd yr holl bwyntiau a grybwyllwyd yn y lansiad gan y grwpiau cynghori diwydiant i’w hystyried mewn trafodaethau pellach wrth i’r grwpiau esblygu.

Mae gan y fforymau ar y wefan fwrdd ar gyfer pob grŵp cynghori’r diwydiant felly gall aelodau roi sylwadau ar y pynciau hyn a’u trafod er mwyn helpu i ddatblygu ein syniadau ar sut y gall yr Hwb roi cymorth.

Daeth y digwyddiad i ben tua 4pm.

Mae’r adborth gan gynrychiolwyr wedi bod yn ardderchog a hoffem ddiolch i bawb a helpodd i greu digwyddiad ystyriol a boddhaol, yn benodol Elfed Roberts, Julie James AS, Steve Fanning, Tom Boome, Graham Sumsion a Cat Griffiths Williams, ynghyd â thîm yr Hwb.