Neidio i’r prif gynnwys

Rydym wedi lansio modiwl e-ddysgu newydd sydd wedi'i gynllunio i gefnogi'r rhai sy'n gweithio ar ôl-osod adeiladau waliau solet cyn 1919.

Mae'r modiwl hwn yn archwilio sut i ôl-osod adeiladau waliau solet cyn 1919 yn ddiogel, yn effeithiol, ac yn unol â pholisi Cymru. Wedi'i ddatblygu gan Morwenna Slade (Hennacliff Consulting) a'i gyflwyno gan Nell Hellier (Canolfan Tywi), mae'n cyfuno canllawiau ymarferol â chyd-destun polisi i gefnogi penderfyniadau ôl-osod gwybodus.

Bydd dysgwyr yn ennill dealltwriaeth o'r dirwedd ôl-osod ehangach, gan gynnwys polisïau cynllunio perthnasol ac ystyriaethau treftadaeth ar gyfer adeiladau traddodiadol. Mae'r modiwl hefyd yn ymdrin â sut i asesu a deall ffabrig adeiladau presennol, modelu perfformiad adeiladau, a nodi dulliau, opsiynau a mesurau ôl-osod addas.

Yn ogystal, mae'r cwrs yn eich tywys drwy sut i adolygu, gwerthuso a chyfiawnhau cynigion ôl-osod, ochr yn ochr ag agweddau allweddol ar weithredu, rheoli prosiectau a'r broses gydsynio.

Mae rhagor o wybodaeth a mynediad i'r modiwl ar gael ar ein tudalen e-ddysgu .