Bydd model enghreifftiol o sut mae meddygon teulu yn rhoi cymorth i breswylwyr mewn cartrefi gofal yn cael ei ddatblygu ac mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu datrysiad a fydd yn sicrhau bod preswylwyr yn derbyn gofal amserol a chyson gan bob gwasanaeth, gyda staff gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd i gyd yn gweithio gyda’i gilydd.