Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i’r drefn ar gyfer perfformiad ynni adeiladau. Nod y diwygiadau hyn yw gwella effeithlonrwydd a chywirdeb Tystysgrifau Perfformiad Ynni wrth wella cydymffurfedd â gofynion arolygu.
Mae elfennau allweddol yr ymgynghoriad yn cynnwys:
• Symleiddio a diweddaru’r drefn archwilio ar gyfer systemau aerdymheru, gan ganolbwyntio ar systemau mwy i wneud y mwyaf o arbedion carbon.
• Cryfhau dibynadwyedd Tystysgrifau Perfformiad Ynni, a gwaith gorfodi mewn perthynas â nhw, i adlewyrchu perfformiad ynni’r byd go iawn.
• Adolygu hyfforddiant a safonau ar gyfer aseswyr i sicrhau gwell ansawdd a chydymffurfedd.
Mae’r cynigion hyn yn rhan o ymdrechion ehangach i gyrraedd targedau allyriadau sero net a gwella effeithlonrwydd ynni yn yr amgylchedd adeiledig. Gwahoddir rhanddeiliaid i roi adborth i helpu i lunio’r fframwaith terfynol.
I gael rhagor o fanylion, ewch i’r dudalen ymgynghori ar wefan GOV.UK .