Mae Tai ar y Cyd, cydweithrediad rhwng 23 o landlordiaid cymdeithasol Cymru, wedi cynhyrchu llyfr patrymau arloesol a fydd yn helpu i wneud adeiladu cartrefi yng Nghymru yn fwy cynaliadwy, effeithlon o ran ynni a chost-effeithiol.
Mae'n cynnwys cynlluniau ar gyfer 15 math o dai a 18 amrywiad yn amrywio o fflatiau 1 ystafell wely a thai 4 ystafell wely i fyngalos a fflatiau sy'n gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.
Mae manteision y llyfr patrwm newydd yn cynnwys cartrefi o ansawdd uwch, adfywio economaidd, adeiladu cyflymach, defnyddio deunyddiau carbon isel, sicrwydd cost, llai o wastraff, a llai o aflonyddwch i gymunedau.
Mae canllaw dylunio hefyd yn cael ei lansio i gefnogi timau dylunio sy'n defnyddio'r llyfr patrymau i ddylunio datblygiadau o ansawdd uchel sy'n ategu'r ardal leol a'r cyd-destun.
Bydd y cartrefi newydd yn defnyddio deunyddiau naturiol, gan gynnwys pren sy'n dod fwyfwy o goedwigoedd Cymru ac sy'n cael ei gynhyrchu mewn ffatrïoedd Cymru lle bo modd.
Mae'r cartrefi hefyd wedi'u cynllunio i fodloni Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru a Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Mae'r dull hwn yn sicrhau bod buddsoddiad mewn cartrefi newydd yn cyfrannu at adfywio economaidd lleol drwy gefnogi busnesau lleol a chreu swyddi gwyrdd a chyfleoedd hyfforddi.
Bydd y llyfr patrymau a'r canllaw dylunio yn cael eu datgelu'n swyddogol ar 15 Ionawr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, campws Abertawe.
Cyn y lansiad, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, â Celtic Offsite yng Nghaerffili, menter gymdeithasol o fewn Grŵp United Welsh sy'n cynhyrchu cartrefi pren o'u ffatri.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae Tai ar y Cyd yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymrwymiad i adeiladu cartrefi cynaliadwy a fforddiadwy yma yng Nghymru.
“Rydym yn gwybod bod angen gwirioneddol am gartrefi o ansawdd da ac sy’n effeithlon o ran ynni ar draws ein cymunedau ac mae’r llyfr patrwm arloesol hwn yn rhoi’r offer sydd eu hangen ar ddatblygwyr i adeiladu cartrefi’n gyflymach a chyflawni ein targed o adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Senedd hwn.
“Rwy’n falch ein bod wedi gallu cefnogi’r ddarpariaeth o’r adnoddau hyn i gefnogi ein heconomïau lleol, cynyddu nifer y swyddi medrus ledled Cymru a chynyddu nifer y tai fforddiadwy.”
Dywedodd Richard Mann, Prif Weithredwr Grŵp United Welsh:
“Roedden ni wrth ein bodd yn croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’n ffatri fframiau pren, Celtic Offsite.
“Bydd y dyluniadau tai safonol gan Tai ar y Cyd yn ein galluogi i fod yn fwy effeithlon yn ein prosesau gweithgynhyrchu, fel y gallwn adeiladu mwy o gartrefi yn gyflymach ar gyfer partneriaid cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol.
“Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r dyluniadau i adeiladu mwy o gartrefi sydd eu hangen yn fawr i bobl eu mwynhau ledled Cymru.”