Neidio i’r prif gynnwys

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau ymchwil gyda chontractwyr a datblygwyr a oedd yn ymwneud ag ail flwyddyn y Rhaglen Tai Arloesol (2018 i 2019).

Roedd y canfyddiadau’n canolbwyntio ar bedwar prif faes.

Cynllunio

  • Roedd cynllunwyr awdurdodau lleol yn gyffredinol yn barod i dderbyn dulliau arloesol a gynigiwyd gan ddatblygwyr oherwydd aliniad y Rhaglen Tai Arloesol â nodau polisi ehangach gyda’r nod o wella ansawdd tai a chynaliadwyedd.
  • Roedd rhai heriau rheoleiddiol yn fwy amlwg mewn ardaloedd gwledig gyda chyfyngiadau cynllunio llym, gan amlygu’r angen am ddiweddariadau mewn canllawiau cynllunio i gynnwys dyluniadau arloesol.
  • Roedd deialog gynnar a thryloyw gyda thrigolion lleol, swyddogion awdurdodau lleol a chynghorwyr lleol yn hollbwysig i liniaru gwrthwynebiadau cymunedol a galluogi proses gynllunio esmwyth.

Datblygiad strategol

  • Mae cyllid y Rhaglen Tai Arloesol yn hanfodol oherwydd dywedwyd bod y costau sy’n gysylltiedig ag adeiladau arloesol yn uwch na chostau ar gyfer adeiladau traddodiadol. Nid yn unig y gwnaeth cyllid y Rhaglen Tai Arloesol y datblygiadau’n bosibl ond bu hefyd yn cymell awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i ystyried atebion tai mwy cynaliadwy a thechnolegol ddatblygedig.
  • Roedd ymgorffori adborth cymunedol i ddyluniad datblygiadau yn hanfodol i sicrhau llwyddiant cynlluniau tai arloesol. Roedd addasiadau yn seiliedig ar fewnbwn cymunedol wedi helpu datblygwyr i alinio’r dyluniadau arloesol yn well â hoffterau ac anghenion lleol, gan wella derbyniad a boddhad cyffredinol ar ôl i’r cynlluniau gael eu cwblhau.
  • Roedd addysgu tenantiaid ar ddefnyddio technolegau newydd yn hanfodol ar gyfer cyflawni’r manteision bwriadedig o effeithlonrwydd ynni a chysur yn ogystal ag alinio’r datblygiadau arloesol hyn ag anghenion a dewisiadau ymarferol y preswylydd.

Heriau’r gweithlu

  • Roedd prinder amlwg o lafur medrus a oedd yn gallu gosod a chynnal technolegau arloesol. Roedd yn rhaid i ddatblygwyr fuddsoddi mewn hyfforddiant i sicrhau y gallai eu timau reoli’r technolegau newydd yn effeithiol.
  • Roedd partneriaethau gyda chwmnïau adeiladu sy’n arbenigo mewn adeiladu arloesol yn hanfodol i leihau materion yn ymwneud â’r gweithlu, gan hwyluso integreiddio arferion arloesol.
  • Roedd penodi unigolyn ymroddedig, megis peiriannydd mecanyddol a thrydanol, yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pob system yn gweithio’n gydlynol.

Adeiladu

  • Roedd datblygwyr yn aml yn wynebu anawsterau gyda chadwyni cyflenwi ar gyfer deunyddiau arbenigol, a oedd yn peri risgiau i linellau amser a chostau adeiladu, yn enwedig mewn prosiectau a oedd yn defnyddio Passivhaus.
  • Roedd heriau ariannol datblygiadau arloesol yn sylweddol, gyda chostau cychwynnol uwch a gwariant annisgwyl posibl. Roedd cyllid y Rhaglen Tai Arloesol yn hanfodol i ddarparu’r cymorth ariannol angenrheidiol i bontio’r bylchau hyn.
  • Roedd rhoi technolegau uwch ar waith, megis systemau awyru mecanyddol gydag adfer gwres a phympiau gwres o’r ddaear, yn cyflwyno heriau o ran gosod a chynnal a chadw, gan amlygu’r angen am oruchwyliaeth fedrus.

Darllenwch yr adroddiad