Mae’r argyfwng hinsawdd yn parhau i ddwysáu. Mae angen i’n hamgylcheddau naturiol ac adeiledig addasu i newid yn gyflym. Mae mwy a mwy o gymdeithasau yn gweld coedwigoedd ac adeiladu â phren yn rhan allweddol o’r datrysiad i ddatgarboneiddio ein hamgylchedd adeiledig. Ar yr un pryd, mae coedwigoedd yn dod o dan fwy o bwysau yn sgil cynhesu byd-eang. Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer prosiectau adeiladu yn y dyfodol? Mae WoodBUILD yn cynnig cyfle i gwrdd ag arbenigwyr o bob rhan o’r diwydiannau coedwig a’r sectorau adeiladu pren i ddysgu, cydweithio a chael eich ysbrydoli.
Ers y digwyddiad WoodBUILD cyntaf yn 2016, mae’r gynhadledd ac arddangosfa hon wedi dod yn brif ddigwyddiad y diwydiant pren a thai carbon isel yng Nghymru. Bydd WoodBUILD eleni yn fwy ac yn well nag erioed. Ar gyfer 2024, rydym yn trefnu deuddydd llawn siaradwyr ac arddangoswyr diddorol, ynghyd â chyfres o gyflwyniadau, trafodaethau panel, ymweliadau oddi ar y safle i goedwigoedd a ffermydd, sesiynau rhyngweithiol llawn, gweithdai cyd-greu ac arddangosiadau ymarferol. Ymunwch â mwy na 250 o arbenigwyr y diwydiant ar 2 a 3 Gorffennaf yn Llanbedr Pont Steffan.