Gweminar wedi'i recordio ar 14 Ionawr 2026.
Ymunwch â Hwb Dim Carbon Cymru ar gyfer digwyddiad ar-lein sy'n archwilio sut y gall cydweithio â thrigolion – yn ystod y cyfnod dylunio, y trosglwyddo a'r meddiannu – helpu darparwyr tai cymdeithasol i ddarparu cartrefi carbon isel sy'n effeithlon o ran ynni ac yn gyfforddus i denantiaid o'r diwrnod cyntaf.
Bydd y sesiwn hon yn cynnwys:
- Dysgu arloesol o gyd-ddylunio o'r prosiect Trawsnewid Cartrefi, sy'n cynnwys ôl-osod tai cymdeithasol carbon isel o'r 1920au ar ystâd Town Hill yn Abertawe.
- TPAS Cymru yn rhannu sut mae ymgysylltu â thenantiaid yn cefnogi cyflawniad sero net, gan dynnu ar yr hyn y mae tenantiaid wedi'i rannu am eu profiad bywyd o gartrefi ac ynni, a'r hyn sydd angen bod ar waith er mwyn i sero net lwyddo ar raddfa fawr.
- Mewnwelediadau gan Max Fordham, aelod o Rwydwaith Perfformiad Adeiladau GHA, sy'n arwain y ffordd ar ddatblygu dulliau cyffredin a hygyrch o Werthuso Ôl-feddiannu (POE).
Siaradwyr:
- Laura Broderick, Cyfarwyddwr Rhaglen, Cynghrair Cartrefi Da
- Laura Brain a Joel Cady, Cymdeithion Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd
- Akshita Lakhiwal, Swyddog Ymgysylltu Net Sero, TPAS Cymru
- Tom McNeil, Pennaeth a Phartner yn Max Fordham
Pwy ddylai wylio:
Cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, dylunwyr, ymgynghorwyr, ac unrhyw un sy'n ymwneud â darparu cartrefi cynaliadwy, carbon isel.