Lleoliad: Arena Abertawe, Abertawe
Dyddiad: 10 Medi 2024
Archebwch eich stondin yn Arddangosfa Busnes Cymru: Cwrdd â’r Prynwyr, a ariennir yn llawn. Mae’r economi sylfaenol wrth wraidd rhaglen economi Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwariant yng Nghymru.
Bydd Busnes Cymru yn cyflwyno arddangosfeydd Cwrdd â’r Prynwyr sy’n torri tir newydd ac sy’n cael eu hariannu’n llawn a lle mae busnesau bach a chanolig lleol yn cael cyfle i gyfarfod a chymryd rhan mewn cyfarfodydd un-i-un, wyneb yn wyneb, â phrynwyr mwy sydd â phrosiectau ar waith ac sy’n mynd ati i ehangu eu cadwyni cyflenwi lleol.
Bydd y digwyddiadau hefyd yn cynnwys Parth Cymorth, lle gallant gael cyngor a chymorth gwerthfawr gan sefydliadau tebyg, gan roi popeth sydd ei angen arnynt – i gyd o dan yr un to. Byddant yn dysgu gan brynwyr mawr sut i ddod o hyd i waith a gwneud ac ennill cais, gan adael y digwyddiad gyda chyfleoedd go iawn yn ogystal â darganfod unrhyw rwystrau wrth gyflenwi a sut i’w goresgyn.