Neidio i’r prif gynnwys

Mae cwrs hyfforddi Hwb Carbon Sero Cymru bellach yn fyw! Cynlluniwyd y cwrs hwn i gefnogi arolygwyr safle a rheolwyr prosiect cymdeithasau tai.

Rydym wedi datblygu’r cwrs mewn cydweithrediad ag arbenigwyr yn y diwydiant i gwmpasu’r wybodaeth a sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gyrraedd safonau sero net ar gyfer prosiectau adeiladu newydd ac ôl-osod.

Bydd y cwrs hwn hefyd yn amlygu peryglon cyffredin a strategaethau i’w hosgoi, gan sicrhau bod cartrefi’n bodloni safonau’r diwydiant.

Mae’r rhaglen hyfforddi yn cwmpasu naw modiwl, pob un yn canolbwyntio ar agweddau ar dai sero net, ac mae ar gael trwy ein platfform dysgu ar-lein:

  • Cefndir Polisïau a Rheoliadau Tai Cymdeithasol Cymru
  • Sylfaen: Cyflwyniad i Adeiladu Cynaliadwy
  • PAS 2030/2035: Ôl-osod ar gyfer Arolygwyr Safle a Rheolwyr Prosiect
  • Monitro, Adrodd a Lleihau Allyriadau Carbon
  • Canllawiau ar gyfer Pympiau Gwres a Phaneli Solar Ffotofoltäig
  • Aerglosrwydd: Ôl-osod Cartrefi
  • Colli Gwres mewn Cartrefi Newydd
  • Dulliau Adeiladu Modern ar gyfer Cartrefi Adeiladu o’r Newydd
  • Awyru: Ôl-osod ac Adeiladu Cartrefi Newydd
  • Mynd ati i Werthuso Perfformiad Adeiladau

Ar ôl cwblhau’r cwrs, dyfernir tystysgrif i gyfranogwyr sy’n nodi’r modiwlau y maent wedi’u pasio’n llwyddiannus.

Mae’r cwrs yn rhad ac am ddim i’r 200 sydd yn cofrestru gyntaf ac sy’n gweithio i awdurdod lleol neu gymdeithas dai yng Nghymru. Rydym yn rhagweld y bydd modiwlau’r cwrs ar gael i ddysgwyr y tu allan i Gymru yn y dyfodol agos.

Dysgwch fwy a chofrestrwch