Neidio i’r prif gynnwys

Cefndir

Rhoddodd cyllid Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1 gyfle i barhau â’r gwaith a wnaed yn Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1. Roedd hyn yn cynnwys yr un mesurau ond mewn ardal o amddifadedd uchel. Dewiswyd Rhydwen Drive gan ei fod nesaf i gael toeau newydd o dan raglen waith tai Cyngor Sir Ddinbych. Ariannwyd cynnydd mewn gwaith cyfalaf i gynnwys to gyda phaneli solar ffotofoltäig integredig fel rhan o ddatgarboneiddio gan Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1. Mae Rhydwen Drive mewn ardal o amddifadedd uchel ac felly penderfynwyd cymryd y dysgu cadarnhaol o Alltmelyd yn Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1 a chyflwyno’r gwelliannau cadarnhaol lle byddent yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’r gymuned. Roedd gan 54 eiddo yn y Rhyl fesurau ôl-osod, gan gynnwys inswleiddio waliau allanol, paneli solar ffotofoltäig a batris, ar ôl cwblhau gwaith Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1 yn Alltmelyd. Yn ogystal, roedd gan yr eiddo hyn hefyd synwyryddion a phyrth system ynni ddeallus ac amgylcheddol.

Dysgu o’r prosiect

  • Ar ôl cwblhau gwaith ôl-osod, mae pob eiddo yn aros am Dystysgrif Perfformiad Ynni newydd a byddant yn cael eu cynnwys mewn arolwg stoc llawn sy’n ofynnol ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru
  • Dadansoddwyd y paneli solar ffotofoltäig i nodi’r perfformiad gorau. Nid oedd yn syndod mai hwn oedd gan baneli â lleoliad sy’n wynebu’r de. Fodd bynnag, roedd cysgodion ar doeau hefyd yn effeithio ar ba mor dda y mae system paneli solar ffotofoltäig yn gweithredu. Roedd batris yn cael eu storio yn hwy na’r amser a ddymunir o ganlyniad i gyfyngiadau symud Covid-19 ac felly roedd angen gwaith cynnal a chadw ychwanegol. Penderfynwyd peidio ag adnewyddu’r systemau hyn nes bod dealltwriaeth well o’r gofynion cynnal a chadw ac iechyd a diogelwch ar gyfer batris.
  • Mae dadansoddiad o arbedion yn dangos amrywiaeth eang o fuddion yn dibynnu ar ffactorau allanol; fodd bynnag, mae pob eiddo wedi gweld arbedion yn deillio o’r gwaith inswleiddio a phaneli solar ffotofoltäig
  • Cynhaliwyd cyfarfod ymgysylltu â’r gymuned yn y ganolfan gymunedol leol ar yr un stryd. Cyflwynwyd hyfforddiant ystafell ddosbarth yn ymwneud â’r technolegau newydd a chyfle i’r preswylwyr ofyn cwestiynau ynghylch ôl-osod
  • Mae technoleg bob amser yn esblygu, gall diogelu eiddo at y dyfodol fod yn gymhleth, ac mae’n well gwneud prosiectau llai a cheisio dod o hyd i ddyfeisiau rhatach (technoleg a data), mwy effeithlon, ac yn haws i’w cynnal a’u cadw ac i denantiaid eu defnyddio
  • Gosodwyd paneli solar ffotofoltäig, gwrthdroyddion a batris ochr yn ochr â hyfforddiant ar gyfer gosod y technolegau hyn mewn tai cymdeithasol. Mae dysgu am leoliad y paneli solar ffotofoltäig, gofynion cynnal a chadw batris, ac effaith cysgodion o simneiau, adeiladau cyfagos a choed bellach yn cael eu deall yn well
  • Mae Rhydwen Drive a Rhydwen Close yn enghraifft dda o’r gwahaniaethau mewn effeithlonrwydd sy’n gysylltiedig â lleoliad gwahanol toeau a chysgodion oddi wrth simneiau, sy’n gymysgedd o simneiau ar ochr ogleddol a deheuol yr eiddo

Arloesi yn y prosiect

Mae inswleiddio waliau allanol a gosod toeau newydd gyda phaneli solar, batris, a synwyryddion amgylcheddol a system ynni ddeallus i eiddo sydd mewn ardal o angen mawr ac amddifadedd yn darparu rhywbeth da i’r ardal. Roedd arloesedd ychwanegol ar gyfer Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1 yn cynnwys y canlynol:

  • Roedd 54 eiddo yn y Rhyl yn destun mesurau ôl-osod, gan gynnwys inswleiddio waliau allanol gan ddefnyddio deunydd craig a gosod paneli solar ffotofoltäig a batris, yn dilyn cwblhau gwaith Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1 yn Alltmelyd
  • Cafwyd ymgysylltu â phreswylwyr lleol a chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a gwaith yng Nghanolfan Phoenix y Rhyl, ac roedd canolfan gymunedol a hyfforddi leol ar Heol Rhydwen yn rhoi cyfleoedd i staff lleol, gan gynnwys swyddog cyswllt tenantiaid lleol a phrentisiaid
  • Roedd dadansoddiad ychwanegol yn cynnwys cofnod misol o’r pŵer a gynhyrchwyd a’r arian a arbedwyd
  • Parhaodd y broses o brofi a dysgu gyda chyflwyno synwyryddion a phyrth system ynni ddeallus ac amgylcheddol

Heriau

  • Dechreuwyd dod o hyd i’r problemau oedd yn gysylltiedig â Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1 a Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1 tua diwedd Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1. Mae’r rhain yn cynnwys:
    • problemau gyda batris (yn bennaf yn gysylltiedig â Covid-19 ac oedi hir gyda gosodiadau)
    • problemau gyda systemau ynni ddeallus a systemau amgylcheddol â gwifrau – cost uchel ar gyfer data a barhaodd am y tair blynedd ofynnol
  • Mae gosod a chael buddion o synwyryddion a phyrth system ynni ddeallus ac amgylcheddol yn dibynnu ar sawl ffactor cyfyngol:
    • mynediad i’r eiddo
    • gosodiad cywir
    • darllen codau QR a rhifau cyfresol yn gywir
    • cysylltiad rhyngrwyd da
    • cost data telathrebu
    • dangosfwrdd da sy’n arddangos data yn gywir
    • dadansoddiad cywir o ddata
  • Mae rhwystrau mewn unrhyw ran o’r gadwyn uchod yn arwain at fylchau data drud
  • Gosodwyd y batris yn hwyr oherwydd cyfyngiadau symud Covid-19 ac mae hyn wedi cael effaith hirdymor ar gynnal a chadw’r batris
  • Nid yw’r gwrthdroyddion wedi’u cynllunio i gael llawer o folteddau gwahanol. Yn y bôn, mae angen i’r paneli gynhyrchu’r un foltedd i weithio neu anwybyddir y paneli foltedd is. Gall hyn achosi problemau pan fydd cysgod yn disgyn ar rai o’r paneli solar. Mae yna opsiynau technoleg amgen ar gyfer datblygiadau arloesol yn y dyfodol, gan gynnwys gwrthdroyddion micro ac optimeiddwyr pŵer
  • Argymhellir yn gryf bod angen cynllunio gofalus ar gyfer ychwanegu batris, pyrth, system ynni ddeallus a systemau amgylcheddol i leihau costau a materion cynnal a chadw yn fawr
  • Mae materion cysylltiedig eraill yn cynnwys:
    • gosod technolegau yn gywir
    • bylchau mewn sgiliau
    • diffyg o ran data (yn ddelfrydol, mae angen Wi-Fi i fonitro systemau paneli solar ffotofoltäig)
    • materion cysylltiad rhwng dyfeisiau, llwyfannau a TrustMark
  • Newidiwyd y technolegau a ddefnyddir ar gyfer monitro’r system ynni ddeallus a systemau amgylcheddol ar gyfer Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.2 ac eto ar gyfer Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 3.2 (gweler yr astudiaethau achos hynny am ragor o fanylion)
  • Roedd y gwaith i inswleiddio waliau allanol a ychwanegwyd yn y Rhyl ar gyfer Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1 a 3.1 yn cynnwys materion gyda thoi a’r deunydd inswleiddio waliau allanol a chynnal y rhain. Mae silffoedd ffenestri wedi achosi problemau yn arbennig, gan nad yw’r deunydd a ddefnyddir yn goroesi traul, a gellir ei dorri’n hawdd. Mae teils wedi llithro ac mae cwteri wedi datgysylltu
  • Oherwydd siliau ffenestri allanol yn peidio â rhoi bargod pendant o o leiaf 40 mm a materion eraill yn ystod y cyfnod diffygion, bu rhaid i gontractwyr ddychwelyd a chynnal archwiliadau gwirio rheolaidd