Neidio i’r prif gynnwys

PARC EIRIN (CAMAU 1 – 3) – RHAGLEN DAI ARLOESOL (BLWYDDYN 2)

Cefndir

Cynllun safle Parc Eirin
Awyrlun o Barc Eirin

Mae’r prosiect hwn hanner ffordd wedi’i gwblhau ar hyn o bryd, gyda thros 111 o gartrefi wedi’u gwerthu a’u meddiannu. Cefnogir y prosiect gan dros £6 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru o dan Flwyddyn 2 (2018) y Rhaglen Tai Arloesol ac mae’n gydweithrediad rhwng Grŵp Pobl, Tirion Homes, Morganstone a Sero.

Amcan Parc Eirin oedd adeiladu prosiect tai a arweinir gan werthiant ar raddfa, gan ymgorffori dylunio ynni effeithlon, datrysiadau ynni adnewyddadwy, batris storio ynni a system ynni ddeallus Sero. Byddai’r ‘arloesedd’ hwn yn sicrhau mai Parc Eirin fyddai’r datblygiad mwyaf a’r cyntaf o’i fath yn y DU – gan roi cipolwg ar y dyfodol pan fydd gan bob cartref newydd ar werth Dystysgrif Perfformiad Ynni A, na fyddant yn defnyddio ynni ffosil, ac y byddant yn defnyddio ynni adnewyddadwy, dulliau storio ynni a thechnolegau rheoli ynni.

Rhannwyd y rhaglen ar gyfer cwblhau Parc Eirin yn chwe cham. Cwblhawyd camau 1–3 (111 o gartrefi) gan Grŵp Pobl rhwng 2019 a 2022. Bydd camau 4–6, sydd ar fin dechrau, yn cael eu datblygu gan Tirion Homes, gyda’r gwaith adeiladu i’w gwblhau yn 2027.

Creu lleoedd

Lleolir Parc Eirin i ffwrdd o ffurf adeiledig Tonyrefail, a phentrefi cyfagos Hendreforgan a Gilfach-goch. Roedd y dylunwyr yn cael eu harwain gan y gwahaniad ffisegol a gweledol hwn i greu lle yn seiliedig ar y lleoliad naturiol (o fewn dyffryn coediog bas) ac a ysbrydolwyd gan esthetig ‘pentref gardd’. Mae'r strydoedd a’r mannau agored yn dilyn egwyddorion dylunio trefol cadarn.

Strategaeth fonitro a gwerthuso

Mae’r cartrefi ym Mharc Eirin yn ymgorffori nifer o dechnolegau cartref a oedd, ar ddatblygiad preifat o’r raddfa hon, yn arloesol ar y pryd.

Targedau ansawdd

Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer: Mae’r cartrefi wedi’u cynllunio o amgylch cysyniad o gynhyrchu, storio, mewnforio ac allforio ynni. Mae’r system paneli solar ffotofoltäig, batri a rheoli ynni yn galluogi trigolion i fanteisio ar dariff ynni hyblyg i leihau eu biliau ynni.

Mathau o dai ym Mharc Eirin

Dysgu o’r prosiect

Mae camau 1–3 o brosiect Parc Eirin wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn sawl ffordd:

  • Roedd y galw am y cartrefi yn uchel iawn, a gwerthwyd pob cartref
  • Fel rhan o Gam 1, roedd swyddfa werthu a chartref i’w arddangos ar y safle a bu hyn yn ddefnyddiol iawn o ran arddangos y technolegau yn y cartref i ddarpar brynwyr
  • Mae preswylwyr yn mwynhau biliau ynni isel o gymharu â chartrefi tebyg sydd ar werth gyda gwres canolog nwy a dim un o’r technolegau adnewyddadwy a restrir uchod

MONITRO : Lluniwyd dau fath o adroddiad monitro ar gyfer Parc Eirin:

ADRODDIAD PERFFORMIAD Gorffennaf 2022 ( Rhaglen Tai Arloesol Parc Eirin – Crynodeb o Ddata Perfformiad Ynni, Gorffennaf 2022 (002))

  • Yn seiliedig ar ddata a gasglwyd gan y sytem ynni ddeallus dros gyfnod o 12 mis o 47 o gartrefi (Cam 1), roedd yn bosibl llunio adroddiad ar y patrymau o ran defnyddio, cynhyrchu ac allforio ynni ym mhob cartref
  • Roedd hyn yn dangos bod y cartrefi 45% yn fwy effeithlon o ran ynni na’r cartrefi newydd arferol yn y DU a bod y paneli solar ffotofoltäig yn cynhyrchu 67% o’r galw blynyddol am ynni ar gyfartaledd
  • Cynhyrchodd y cartrefi a berfformiodd orau 127% o’u hanghenion ynni o’r paneli solar ffotofoltäig a chynhyrchodd y mathau o dai a berfformiodd waethaf 37% o’u hanghenion ynni. Gellid esbonio’r amrywiad hwn trwy ddyluniad a nifer y paneli: cafwyd y perfformiad gorau gan 24 o baneli a oedd ar fflat uwchben garej a’r perfformiad gwaethaf oedd y tŷ tref, oedd â phedwar panel.
  • Mae’r math o dŷ sengl pedair ystafell wely ar hyn o bryd yn rhedeg ar fil misol o £95, sy’n cynnwys y gost o redeg cerbyd trydan

Pwyntiau dysgu o ran perfformiad a thechnoleg:

  • Mae’r ap Sero Life yn llawer rhy sylfaenol a dylai fod wedi’i ddylunio i ddarparu gwybodaeth am fewnforio/allforio, bilio, cyflwr gwefru’r batri, cynhyrchu ynni solar ac ati.
  • Roedd system ynni ddeallus Sero yn golygu nad oedd yr apiau ar gyfer Mixergy a phwmp gwres Kensa yn cael eu cynnig i drigolion. Roedd hyn yn lleihau lefel y rhyngweithio y byddai rhai trigolion wedi’i ffafrio
  • Roedd absenoldeb panel rheoli wedi’i osod ar waliau hefyd yn broblem – yn enwedig pan fydd peirianwyr yn ymweld â’r cartrefi ac yn gorfod benthyg ffôn cwsmeriaid
  • Dylid lleihau nifer y parthau gwresogi dan y llawr o dri i un, a fyddai’n symleiddio pethau ac yn lleihau problemau gyda gosodiadau a mannau oer sydd â chydbwysedd gwael.

ADRODDIAD INSIGHTS CYMDEITHASOL Medi 2021 ( Parc Eirin Insights Cam 1 a 2 SV (003) )

  • Cynhaliodd tîm o wyddonwyr ymchwil o Brifysgol Caerdydd gyfweliadau ag wyth cartref
  • Gofynnwyd saith cwestiwn i bob teulu cyn iddynt symud i mewn i’r eiddo, a’r un saith cwestiwn dri mis ar ôl iddynt ddechrau byw yno
  1. Cymhellion
  2. Dyluniad a chynllun y cartref
  3. Arloesedd – gwresogi a dŵr poeth
  4. Defnyddio ynni a’r costau
  5. Ymwybyddiaeth amgylcheddol
  6. Dyheadau
  7. Cymuned
  • Rhoddodd y rhan fwyaf o gyfranogwyr adborth cadarnhaol ar gysur thermol a pha mor hawdd oedd defnyddio’r system wresogi, er y gwnaed nifer o sylwadau am ddod i arfer â’r gwahaniaeth rhwng gwres canolog nwy a phympiau gwres
  • Mae’r ap ar gyfer rheoli’r gwres a’r dŵr poeth yn eithaf sylfaenol a nododd rhai defnyddwyr broblemau gyda’r amser a gymerir ganddo i ymateb a’i fod yn anodd ei reoli
  • Roedd y rhan fwyaf o’r trigolion yn fodlon ar y ddarpariaeth dŵr poeth, er i rai gwyno nad oedd digon o ddŵr poeth ar gael ar gyfer cael sawl bath
  • Roedd preswylwyr yn fodlon ar y biliau ynni is a brofwyd a’r rôl gadarnhaol yr oedd y paneli solar ffotofoltäig a’r batri yn ei chwarae
  • Ar y dechrau, roedd rhai preswylwyr yn anfodlon ar y batris, a oedd wedi’u gosod mewn mannau amlwg (e.e. cynteddau). Fodd bynnag, daeth y rhan fwyaf ohonynt i arfer â’r batri dros gyfnod o amser. Roedd yr adborth mwyaf parhaol am y batri yn ymwneud â diffyg gwybodaeth am yr hyn yr oedd y batri yn ei wneud gan fod yr wybodaeth hon ar goll o’r ap Sero Life. Roedd preswylwyr yn teimlo y gallent leihau eu biliau hyd yn oed yn fwy pe baent yn gallu alinio’u defnydd o drydan â’r batri
  • Roedd yr holl breswylwyr yn hapus gyda’r cymorth a gafwyd gan dîm cwsmeriaid Sero Life, a oedd yn darparu gwasanaeth hawdd ei ddefnyddio ac ymatebol iawn pryd bynnag y cysylltwyd â nhw
  • Roedd y pwynt gwefru cerbydau trydan ar bob tŷ/fflat yn ffactor cadarnhaol ac roedd llawer o drigolion Parc Eirin wedi newid i ddefnyddio cerbyd trydan neu’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol.

Argymhellion o’r adroddiad Mewnwelediadau Cymdeithasol

Darparwch wybodaeth i breswylwyr am y dyfeisiau a’r dechnoleg yn eu cartrefi er mwyn iddynt gyfeirio ati. Heb yr wybodaeth hon, gallai’r trigolion wneud rhagdybiaethau gwallus

  • Eglurwch sut y bydd angen i breswylwyr wneud pethau’n wahanol yn eu cartref newydd, e.e. os na allant sychu dillad gwlyb ar eu rheiddiaduron, sut y dylent eu sychu?
  • Nid yw diffyg ymgysylltu â systemau rheoli clyfar yn golygu nad yw preswylwyr yn ymwybodol o’r ynni a ddefnyddir ganddynt – gallai ddangos problemau gyda pha mor hawdd ydyw i ddefnyddio’r dechnoleg
  • Er bod heriau yn gysylltiedig â chynlluniau prydlesu cerbydau trydan cymunol, roedd rhywfaint o frwdfrydedd dros brydlesu cerbydau trydan unigol. Roedd symud i gartref carbon isel wedi rhoi hwb i rai preswylwyr wneud newidiadau eraill i’w ffordd o fyw, felly gallai fod yn amser cyfleus i ystyried technolegau carbon isel eraill
  • Ystyriwyd bod mannau cymunol yn bwysig ar gyfer sefydlu cymuned ond yn aml fe’u hystyriwyd yn flaenoriaeth isel i ddatblygwyr eu cwblhau
  • Dylid hysbysu preswylwyr yn llawn am fonitro eu heiddo, sut y bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio, a gofyn am eu caniatâd

Arloesi yn y prosiect

  • Prif amcan ‘arloesedd’ Parc Eirin yw adeiladu prosiect tai sy’n cael ei arwain gan werthiannau ar raddfa, lle mae pob cartref yn ymgorffori dyluniad ynni effeithlon nad yw’n defnyddio ynni ffosil, datrysiadau ynni adnewyddadwy, storfeydd ar ffurf batris a system ynni deallus Sero
  • Byddai'r ‘arloesedd’ hwn yn sicrhau mai Parc Eirin fyddai’r datblygiad mwyaf yn y DU nad yw’n defnyddio nwy, a’r cyntaf o’i fath hefyd – gan roi cipolwg i’r dyfodol pan fydd gan bob cartref newydd sydd ar werth Dystysgrif Perfformiad Ynni A, na fydd yn defnyddio ynni ffosil, ac y bydd yn defnyddio ynni adnewyddadwy, yn storio ynni ac yn defnyddio technolegau rheoli ynni.

Strategaeth fonitro a gwerthuso
Mae’r cartrefi ym Mharc Eirin yn ymgorffori nifer o dechnolegau cartref oedd, mewn datblygiad preifat ar y raddfa hon, yn arloesol ar y pryd:

Mesurau gwresogi

  • Pwmp gwres o’r ddaear
  • Mae pob twll turio pwmp gwres o’r ddaear wedi’i gysylltu â phedwar cartref
  • Pwmp gwres ‘bocs esgidiau’ ym mhob cartref
  • Gwresogi dan y llawr – llawr daear
  • Rheiddiaduron mawr iawn – lloriau uchaf (1af ac 2il), ac yn y fflatiau.
  • Rhennir y gwres yn ddau neu dri pharth system wresogi o dan y llawr ar y llawr daear ac un parth o reiddiaduron mawr iawn ar y lloriau uchaf. Gellir rheoli pob parth yn unigol o ran tymheredd ac amser cynnau/diffodd

Mesurau ynni/technoleg eraill

  • Paneli solar ffotofoltäig: Mae nifer y paneli yn amrywio ar bob math o dŷ (4–24 panel)
  • ‘Silindr clyfar’ Mixergy: Silindr dŵr poeth sy’n cynnwys ‘dysgu peirianyddol’ i ddysgu arferion y preswylydd o ran defnyddio dŵr poeth a dim ond gwresogi faint o ddŵr sydd ei angen gan ddefnyddio’r tariff mwyaf manteisiol
  • Mae gan bob cartref fatri 5 kWh y tu mewn
  • Gwefrwyr cerbydau trydan: Wedi’u lleoli ar wedd flaen neu ochr yr adeilad ac mewn meysydd parcio cymunol
  • System ynni ddeallus: Wedi’i chyflenwi a’i dylunio gan Sero. Mae hon yn rheoli’r holl systemau er mwyn manteisio i’r eithaf ar y broses o gynhyrchu, storio a defnyddio ynni a lleihau biliau i’r preswylydd
  • Ap Sero Life: Mae hwn yn galluogi’r preswylydd i osod dewisiadau gwresogi ar gyfer tymheredd ac amseru mewn pob parth yn unigol

Heriau

  • Mae Parc Eirin yn ddatblygiad sy’n cael ei arwain gan werthiannau ac mae dros 90% o’r cartrefi wedi cael eu gwerthu ar y farchnad agored
  • Un o’r heriau/risgiau mwyaf oedd pa mor dda y byddai’r cartrefi’n gwerthu. A fyddai’r sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni A a’r dyluniad carbon isel yn denu neu’n digalonni cwsmeriaid? NEU … a fyddai’r agwedd hon yn eilradd o gymharu â lleoliad, dyluniad a phris?
  • Nid oedd gan Pobl unrhyw brofiad blaenorol gyda’r math hwn o ddatblygiad – gwerthu cartrefi carbon isel, nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil
  • Cefnogi preswylwyr (prynwyr yn bennaf) sy’n byw mewn math hollol newydd o gartref, heb gyflenwad nwy ac yn cynnwys sawl system drydan

ÔL-YSGRIF

  • Tynnodd Sero Life yn ôl o Barc Eirin yn 2024, ar ôl penderfynu peidio â darparu gwasanaeth bilio, rheolaethau na gwasanaeth cwsmeriaid mwyach ar brosiectau adeiladu newydd
  • Daeth Octopus yn ddarparwr ynni yno ym mis Mawrth 2024
  • Cafodd y systemau gwresogi, dŵr poeth, batri a gwefrwyr cerbydau trydan eu trosglwyddo nôl i ‘reolyddion safonol’ ym mis Tachwedd 2024, gan olygu bod preswylwyr bellach yn defnyddio apiau Mixergy, Sonnen a Resideo i reoli eu system ynni cartref
  • Gosodwyd paneli rheoli a thermostatau newydd ar y waliau ym mhob cartref
  • Cafodd system ynni ddeallus Sero ei datgysylltu o bob system
  • Ers i Sero dynnu nôl o Barc Eirin, cyflawnwyd yr hyn yr oedd llawer o drigolion yn gofyn amdano mewn gwirionedd, sef paneli rheoli ac apiau a oedd yn rhoi mwy o reolaeth a dealltwriaeth o statws batri a phaneli solar ffotofoltäig, a’r system wresogi a dŵr poeth
  • Mae’n rhy gynnar i weld a fydd absenoldeb system Sero yn arwain at filiau ynni uwch neu is