Gwybodaeth Astudiaeth Achos
- Rhaglen Gymreig: ORP
- Math: Ôl-osod
- Cam: Adeiladu
- Safon ddylunio: SATC (cyn 2023)
- Mesur arall: Solar ffotofoltaidd
Dechreuodd y prosiect hwn ym mis Gorffennaf 2024 a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2025.
Gosodwyd paneli solar ffotofoltäig mewn 93 o gartrefi rhent cymdeithasol yn ardal CF39. Gwnaethpwyd y gosodiadau gan GB-Sol, cwmni o Gymru a gwneuthurwr a gosodwr o systemau paneli solar ffotofoltäig.
Cynhaliwyd gwaith monitro iOpt i gydymffurfio â’r gofynion o ran synhwyryddion amgylcheddol a gosodwyd y rhain gan gontractwr lleol, Flair.
Gweithiodd RHA Wales gyda GB-Sol i ddylunio’r systemau ffotofoltäig ar gyfer pob cartref er mwyn cynyddu sgoriau’r Weithdrefn Asesu Safonol cymaint â phosibl, er mwyn rhoi cymaint o ynni am ddim â phosibl i denantiaid ei ddefnyddio.
Tystysgrif Perfformiad Ynni A / RdSAP 92 oedd y prif symbyliad wrth baratoi ar gyfer gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.
Dysgu allweddol
Y dysgu allweddol o’r prosiect hwn oedd y safon PAS newydd mewn perthynas â batris. Yn dilyn adolygiad o hyn, penderfynodd RHA (gyda chymeradwyaeth LlC) i beidio â gosod batris. Galluogodd hyn ni i gynyddu nifer y cartrefi yn y prosiect o tua 50%.
Rhagwelir y bydd 30 o’r cartrefi yn y prosiect â Thystysgrif Perfformiad Ynni A. Bydd 58 o’r cartrefi â sgôr B gyda’r gweddill â sgôr C uchel.
Heriau
Mae mynediad wedi parhau i fod yn broblem. Mae pedwar tenant wedi gwrthod derbyn eiddo yn y datblygiad, er i ni geisio dwyn perswâd arnynt. Yn sgil hynny, rydym wedi cyflwyno eiddo gwag yn lle, gan ein bod yn teimlo y gallai hyn gynyddu potensial gosod yr eiddo.
Ni chafwyd unrhyw heriau o ran y gweithlu na sgiliau. Mae GB-Sol yn gontractwr arbenigol profiadol ac roedd Flair, ar ôl cael hyfforddiant gan iOpt, yn gymwys i osod y systemau ynni ddeallus.