Gwybodaeth Astudiaeth Achos
- Rhaglen Gymreig: ORP
- Math: Ôl-osod
- Cam: Adeiladu
- Safon ddylunio: SATC (cyn 2023)
- Mesur gwresogi: Solar PV
Cefndir
Gosodwyd paneli solar ffotofoltäig mewn 93 o gartrefi rhent cymdeithasol yn ardal bost CF39 yn y prosiect hwn. Dechreuodd y prosiect ym mis Gorffennaf 2024 a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2025. Gwnaethpwyd y gosodiadau gan GB-Sol, gwneuthurwr a gosodwr o Gymru sy’n cyflenwi ac yn gosod systemau paneli solar ffotofoltäig. Defnyddiwyd monitro iOpt i gydymffurfio â gofynion y synwyryddion amgylcheddol, a osodwyd gan gontractwr lleol, Flair.
Bu RHA Wales yn gweithio gyda GB-Sol i ddylunio’r systemau paneli solar ffotofoltäig ar gyfer pob cartref i roi’r cynnydd mwyaf posibl mewn sgoriau yn y Weithdrefn Asesu Safonol, er mwyn rhoi cymaint o ynni am ddim â phosibl i denantiaid ei ddefnyddio. Tystysgrif Perfformiad Ynni A / RdSAP 92 oedd y symbyliad allweddol wrth baratoi ar gyfer gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.
Dysgu o’r prosiect
Y dysgu allweddol o’r prosiect hwn oedd y safon PAS newydd mewn perthynas â batris. Yn dilyn adolygiad o hyn, penderfynodd RHA (gyda chymeradwyaeth LlC) i beidio â gosod batris. Galluogodd hyn ni i gynyddu nifer y cartrefi yn y prosiect o tua 50%.
Rhagwelir y bydd 30 o’r cartrefi yn y prosiect â Thystysgrif Perfformiad Ynni A. Bydd 58 o’r cartrefi â sgôr B gyda’r gweddill â sgôr C uchel.
Arloesi yn y prosiect
Defnyddiodd RHA wasanaethau GB-Sol, gwneuthurwr lleol yng Nghymru sy’n gosod paneli solar ffotofoltäig.
Heriau
Mae mynediad wedi parhau i fod yn broblem. Mae pedwar tenant wedi gwrthod mynediad er i ni geisio dwyn perswâd arnynt. Yn sgil hynny, rydym wedi gweithio mewn eiddo gwag yn lle hynny mewn rhai achosion, gan ein bod yn teimlo y gallai hyn gynyddu potensial gosod yr eiddo.
Ni chafwyd unrhyw heriau o ran y gweithlu na sgiliau. Mae GB-Sol yn gontractwr arbenigol profiadol ac roedd Flair, ar ôl cael hyfforddiant gan iOpt, yn gymwys i osod y systemau ynni ddeallus.