Neidio i’r prif gynnwys

Cefndir

Gosodwyd paneli solar ffotofoltäig mewn 107 o gartrefi rhent cymdeithasol yn ardaloedd post CF42 a CF40 yn y prosiect hwn. Dechreuodd y prosiect ym mis Ebrill 2024 a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2025. Gwnaethpwyd y gosodiadau gan GB-Sol, gwneuthurwr a gosodwr o Gymru sy’n cyflenwi ac yn gosod systemau paneli solar ffotofoltäig. Defnyddiwyd monitro iOpt i gydymffurfio â gofynion y synwyryddion amgylcheddol, a osodwyd gan y contractwr lleol, Flair. Bu RHA Wales yn gweithio gyda GB-Sol i ddylunio’r systemau paneli solar ffotofoltäig ar gyfer pob cartref i roi’r cynnydd mwyaf posibl mewn sgoriau’r Weithdrefn Asesu Safonol, er mwyn rhoi cymaint o ynni am ddim â phosibl i denantiaid ei ddefnyddio. Tystysgrif Perfformiad Ynni A / RdSAP 92 oedd y symbyliad allweddol wrth baratoi ar gyfer gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.

Dysgu o’r prosiect

Y dysgu allweddol o’r prosiect hwn oedd y safon PAS newydd mewn perthynas â batris. Yn dilyn adolygiad o hyn, penderfynodd RHA (gyda chymeradwyaeth LlC) i beidio â gosod batris. Galluogodd hyn ni i gynyddu nifer y cartrefi yn y prosiect o tua 50%.

Rhagwelir y bydd tua 33 o gartrefi trwy’r prosiect hwn yn cyrraedd sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni A a thua 60 o gartrefi yn cyrraedd sgôr B, gyda’r gweddill yn cyrraedd sgôr C.

Cafwyd problem hefyd gydag un bloc o fflatiau lle nad oedd deiliad y fflat llawr uchaf yn caniatáu mynediad ac felly bu’n rhaid gosod y gwrthdroyddion mewn cabinet allanol gan nad oedd yn bosibl cael mynediad i ofod y llofft er mwyn gosod y gwrthdroyddion.

Arloesi yn y prosiect

Defnyddiodd RHA wasanaethau GB-Sol, gwneuthurwr lleol yng Nghymru sy’n gosod paneli solar ffotofoltäig.

Heriau

Mae mynediad wedi parhau i fod yn broblem. Mae 14 tenant wedi gwrthod mynediad er i ni geisio dwyn perswâd arnynt. Yn sgil hynny, rydym wedi gweithio mewn eiddo gwag yn lle hynny mewn rhai achosion, gan ein bod yn teimlo y gallai hyn gynyddu potensial gosod yr eiddo.

Ni chafwyd unrhyw heriau o ran y gweithlu na sgiliau. Mae GB-Sol yn gontractwr arbenigol profiadol ac roedd Flair, ar ôl cael hyfforddiant gan iOpt, yn gymwys i osod y systemau ynni ddeallus.