Cefndir
Cyflenwyd a gosodwyd paneli solar ffotofoltäig a batris storio ynni mewn 14 eiddo cymdeithasol ar rent yn ardal CF42 gan y gwneuthurwr o Gymru GB-Sol. Oherwydd amseriad yr angen i wario arian a gafwyd o dan Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.2, penderfynodd RHA barhau â fformat Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1. Cyflenwyd systemau ynni deallus gan Sero ac fe’u gosodwyd gan gontractwr fframwaith lleol, Flair. Cyflawnodd yr holl gartrefi sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni o o leiaf B uchel ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau. Tystysgrif Perfformiad Ynni A Safon Ansawdd Tai Cymru (cyn 2023) / RdSAP 92 oedd y symbyliad allweddol wrth baratoi ar gyfer gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru 2023. Dechreuodd y prosiect ym mis Chwefror 2022 a chafodd ei gwblhau ym mis Mawrth 2023.
Dysgu o’r prosiect
Hwn oedd y trydydd prosiect gosod paneli solar ffotofoltäig a batris ar gyfer RHA ac felly roedd y prosiect hwn yn gyflymach i’w gwblhau gan ein bod eisoes wedi cwblhau Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1 a 2.1. Gwelwyd nad yw’n bosibl i’r grid ddarparu ar gyfer allforio llawn ar hyn o bryd ac felly, ar gyfer y prosiect hwn, cafodd cyfyngiad allforio o 1 kW ei orfodi gan y Grid Cenedlaethol (yn unol â Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1 a 2.1). Hwn oedd y prosiect cyntaf lle penderfynwyd defnyddio dau oleddf y to gan ddefnyddio dyluniad dwyrain/gorllewin, gan ein galluogi i gael y systemau paneli solar ffotofoltäig mwyaf posibl, sef 3.9 kW. Heb wneud hyn, byddai’r systemau wedi bod tua 1.95 kW yn unig.
Arloesi yn y prosiect
Defnyddiodd RHA wasanaethau GB-Sol, sy’n wneuthurwr lleol yng Nghymru ac sy’n gosod paneli solar ffotofoltäig. Gosodwyd batris hefyd i gynyddu’r defnydd o ynni a gynhyrchwyd o’r paneli solar ffotofoltäig ymhellach.
Heriau
Y brif her oedd cael mynediad i’r eiddo. Gwrthododd un tenant y gwaith ac felly bu’n rhaid dod o hyd i eiddo lleol arall er mwyn gallu cyflawni’r prosiect. Ni chafwyd unrhyw heriau o ran y gweithlu na sgiliau. Mae GB-Sol yn gontractwr arbenigol profiadol ac roedd Flair, ar ôl cael hyfforddiant gan Sero, yn gymwys i osod y systemau ynni deallus.