Neidio i’r prif gynnwys

Gwybodaeth Astudiaeth Achos

  • Rhaglen Gymreig: ORP
  • Math: Ôl-osod
  • Cam: Gweithredol
  • Safon ddylunio: SATC (cyn 2023)
  • Mesur gwresogi: Solar PV
  • Mesur arall: Storio batri (BESS)

Cefndir

Cyflenwyd a gosodwyd paneli solar ffotofoltäig solar a batris storio ynni i naw eiddo rhent cymdeithasol yng nghod post CF43 gan GB-Sol, gwneuthurwr o Gymru. Oherwydd amseriad y gofynion i wario cyllid Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1, penderfynodd RHA barhau â fformat Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1.

Dysgu o’r prosiect

Hwn oedd yr ail brosiect gosod paneli solar ffotofoltäig a batris ar gyfer RHA ac felly roedd y prosiect hwn yn gyflymach i’w gwblhau gan ein bod eisoes wedi cwblhau Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1. Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2021 ac fe’i cwblhawyd erbyn mis Mawrth 2021. Cyflenwyd systemau ynni deallus gan Sero a gosodwyd y rhain gan ein contractwr fframwaith lleol, Flair. Cynyddwyd sgoriau Gweithdrefn Asesu Safonol pob cartref i sgôr B uchel yn y Dystysgrif Perfformiad Ynni.

Parhawyd i weld nad oedd y grid ar hyn o bryd yn medru darparu ar gyfer allforio llawn ac felly, ar gyfer y prosiect hwn, cafodd cyfyngiad allforio o 1 kW ei orfodi gan y Grid Cenedlaethol yn unol â Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1.

Arloesi yn y prosiect

Defnyddiodd RHA wasanaethau GB-Sol, sy’n wneuthurwr lleol yng Nghymru ac yn osodwr paneli solar ffotofoltäig. Gosodwyd batris i gynyddu’r defnydd o ynni a gynhyrchir o’r paneli solar ffotofoltäig ymhellach.

Tystysgrif Perfformiad Ynni A / RdSAP 92 oedd ein prif symbyliad wrth baratoi ar gyfer gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.

Heriau

Nid oedd unrhyw heriau gwirioneddol gyda’r prosiect hwn gan ei fod yn barhad o Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1. Ni wrthododd unrhyw denant fynediad i’r eiddo, ac roedd pob un yn awyddus i weld y gwaith yn cael ei gwblhau.

Nid oedd unrhyw heriau o ran y gweithlu na sgiliau. Mae GB-Sol yn gontractwr arbenigol profiadol ac roedd Flair wedi cael ei hyfforddi gan Sero ac yn gymwys i osod y systemau ynni deallus.