Neidio i’r prif gynnwys

Cefndir

Cyflenwyd paneli solar ffotofoltäig a storfa batri i 12 eiddo rhent cymdeithasol yn ardal cod post CF72 a’u gosod gan GB-Sol, sy’n wneuthurwr o Gymru. Oherwydd amseriad gofynion gwariant cyllid Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1, newidiodd RHA i brosiect paneli solar ffotofoltäig a oedd yn canolbwyntio ar ddeuddeg o gartrefi gyda thoeau yn wynebu’r de mewn cyflwr da. Cyflenwyd system ynni ddeallus gan Sero a gosodwyd y rhain gan ein contractwr fframwaith lleol, Flair. Dechreuodd y prosiect ym mis Mawrth 2017 a chafodd ei gwblhau erbyn mis Medi 2021.

Dysgu o’r prosiect

Hwn oedd y prosiect gosod paneli solar ffotofoltäig a batri cyntaf ar gyfer RHA, felly dysgwyd sut oedd y prosiect yn cael ei redeg ac am gerrig milltir allweddol y prosiect. Dysgwyd hefyd nad yw’r grid yn medru darparu ar gyfer allforio llawn mewn rhai ardaloedd ar hyn o bryd a gorfodwyd cyfyngiad allforio o 1 kW gan y Grid Cenedlaethol.

Arloesi yn y prosiect

Defnyddiodd RHA wasanaethau GB-Sol, sy’n wneuthurwr lleol yng Nghymru ac yn osodwr paneli solar ffotofoltäig. Gosodwyd batris i gynyddu’r defnydd o ynni a gynhyrchir o’r paneli solar ffotofoltäig ymhellach.

Tystysgrif Perfformiad Ynni A / RdSAP 92 oedd ein prif symbyliad wrth baratoi ar gyfer gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.

Heriau

Y brif her oedd mynediad i eiddo. Ymwelodd RHA â phob tenant i egluro’r gwaith oedd yn cael ei gwblhau ond, er gwaethaf hyn, gwrthododd dau denant y gwaith, felly bu’n rhaid dod o hyd i eiddo lleol yn eu lle er mwyn gallu cyflawni’r prosiect.

Nid oedd unrhyw heriau o ran gweithlu na sgiliau. Mae GB-Sol yn gontractwr arbenigol profiadol ac roedd Flair, ar ôl cael ei hyfforddi gan Sero, yn gymwys i osod y systemau ynni ddeallus