Fel rhan o’r prosiect hwn, gosodwyd paneli solar ffotofoltäig a batris mewn 57 o gartrefi, a phaneli solar ffotofoltäig yn unig mewn pedwar cartref, felly cyfanswm o 61 o gartrefi. Gwnaed y gosodiadau gan GB-Sol, gwneuthurwr a gosodwr o Gymru sy’n cyflenwi a gosod systemau paneli solar ffotofoltäig. Defnyddiwyd monitro iOpt i gydymffurfio â gofynion y synhwyryddion amgylcheddol.
Gweithiodd RHA Wales gyda GB-Sol i ddylunio’r systemau paneli solar ffotofoltäig ar gyfer pob cartref
er mwyn cynyddu sgoriau’r Weithdrefn Asesu Safonol cymaint â phosibl, er mwyn rhoi cymaint o egni am ddim â phosibl i denantiaid ei ddefnyddio.
Dysgu o’r prosiect
Newidwyd o system fonitro cystadleuydd (a oedd wedi’i wifrio’n galed) i system iOpt (sy’n ddi-wifr ac yn gyflymach i’w gosod). Derbyniwyd yr opsiwn hwn yn gadarnhaol gan y tenantiaid gan fod amseroedd gosod yn gyflymach, ac mae’r system yn llawer mwy arwahanol.
Arloesi yn y prosiect
Gwnaethom barhau i ddefnyddio paneli solar ffotofoltäig o Gymru sydd o ansawdd uchel. Defnyddiwyd systemau to integredig mewn dau eiddo hefyd a oedd yn cael toeau newydd ar yr un pryd.
Heriau
Gwrthododd pum tenant y gosodiad, sef rhywbeth nad oeddem wedi’i ragweld. Fe geision ni annog y tenantiaid hyn i gael y gwaith wedi’i gwblhau ond fe wnaethon nhw wrthod o hyd.