Fel rhan o Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 3.1, cwblhawyd gwaith ôl-osod (Cynllun 1) ar 42 eiddo ychwanegol ar Rhydwen Drive. Roedd y gwaith yn cynnwys inswleiddio waliau allanol, gwaith inswleiddio ychwanegol i’r llofft/to hyd at safon y rheoliadau adeiladu cyfredol, ailosod y to presennol a’r holl elfennau cysylltiedig, a gwaith i linell y to / y deunyddiau cario dŵr. Ychwanegwyd paneli solar ffotofoltäig a batris i’r eiddo yn ogystal â systemau ynni deallus a synwyryddion amgylchedd.
Mae’r prosiect yn gweithio tuag at sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni / Gweithdrefn Asesu Safonol o C75 neu uwch ar bob un o’r 42 eiddo.
Dysgu o’r prosiect
Er mwyn sicrhau gwiriad o ansawdd uchel yn ystod y cyfnod diffygion o 12 mis,
dylid edrych am y canlynol:
- Gwirio bod y deunydd inswleiddio i’r waliau allanol wedi’i selio’n gywir o amgylch siliau ffenestri a bod dŵr yn rhedeg oddi ar y siliau ac nid yn casglu yno.
- Gwirio lle mae llinellau to wedi’u hymestyn
- Gwirio’r clipiau ar y cafnau a pheipiau glaw / sicrhau bod y cydrannau dŵr glaw / cafnau wedi’u gosod yn gywir i atal dŵr rhag treiddio i mewn i’r deunydd inswleiddio ar gyfer y waliau allanol
- Gwirio nad yw’r draeniau wedi’u rhwystro gan ro chwipio sydd wedi cwympo wrth iddynt sadio yn ystod y misoedd cyntaf – bydd angen gwneud yn siŵr bod yr ardal o gwmpas y tŷ yn cael ei sgubo o bryd i’w gilydd i gael gwared â’r cerrig mân sydd wedi disgyn o’r rendrad
- Tynnu simneiau yn y dyfodol, i ddileu’r cysgod ar y paneli solar ffotofoltäig
- Wedi penderfynu peidio ag ychwanegu batris i eiddo mwyach gan fod pryderon am eu cynnal a’u cadw ac er mwyn bodloni gofynion PAS 63100 a gofynion y 3ydd argraffiad o god ymarfer y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg
- Ystyrir costau rhedeg gydol oes synwyryddion ar gyfer systemau ynni deallus a systemau amgylcheddol yn y dyfodol fel mesur arbed costau wrth i gyflenwyr newydd ddod i mewn i’r farchnad
Arloesi yn y prosiect
Oherwydd costau byw uchel, rydym yn edrych ar ffyrdd arloesol o leihau’r straen ar gyllid ein tenantiaid. Defnyddiwyd system inswleiddio waliau allanol Wetherby Mineral i inswleiddio waliau dwbl eiddo presennol i leihau biliau gwresogi ac i sicrhau’r perfformiad thermol a chysur mewnol gorau. Yn ogystal, defnyddiwyd JM Renewables, cyflenwr paneli solar ffotofoltäig lleol, i osod paneli solar ffotofoltäig a gwrthdroyddion ar gyfer pob eiddo, ac mae gan bob un fatri i gasglu ynni ychwanegol yn ystod y dydd i leihau biliau dros nos.
Mae synwyryddion wedi cael eu hychwanegu i gasglu data ar gyfer datgarboneiddio i Lywodraeth Cymru. Mae’r data o’r synwyryddion hefyd yn cefnogi ein tîm cynnal a chadw trwy chwilio am risgiau fel gorboethi, anwedd, awyru gwael, llwydni a thlodi tanwydd.
Heriau
Gallai ymgysylltu â thenantiaid fod yn heriol ac mae hyn wedi arwain at adolygiad o arfer gorau a lle gellir gwneud gwelliannau.
Cyfathrebu a gwiriadau o waith corfforol gydag is-gontractwyr / gweithredwyr safle – materion annisgwyl fel rhwystrau iaith gan nad oedd pob gweithiwr ar y safle yn siarad Cymraeg/Saesneg.
Adolygiad o fatris ar gyfer systemau paneli solar ffotofoltäig.
Gwnaed dadansoddiad cost a budd gan fod materion fel diweddariadau meddalwedd a materion cysylltedd ar gyfer y system ynni ddeallus (sy’n ei gwneud yn ofynnol i denant gael Wi-Fi).
Gall dod o hyd i ddiffygion ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, ond yn ystod y cyfnod diffygion, fod yn heriol. Er enghraifft, difrod i gleiniau diferu a systemau rendro gorffenedig a achosir yn ystod y cyfnod pan fydd y safle’n cael ei glirio (tynnu cynwysyddion, gantrïau a pholion sgaffald).