Gwybodaeth Astudiaeth Achos
- Rhaglen Gymreig: ORP
- Math: Adeiladu newydd
- Cam: Gweithredol
- Safon ddylunio: SATC (cyn 2023)
- Mesur arall: Inswleiddio waliau allanol
- Mesur arall: goleuadau LED
Cefndir
Gosodwyd goleuadau ynni effeithlon mewn tri chynllun gofal ychwanegol ar gyfer yr henoed. Adeiladwyd pob un o’r cynlluniau tua deng mlynedd yn ôl ac roedd eu dyluniad yn gymharol effeithlon o ran ynni. Fodd bynnag, mae ardaloedd cymunol mawr yn y cynlluniau gyda lolfeydd a bwytai lluosog. Roedd y defnydd o ynni yn y mannau cymunol yn uchel iawn, gan achosi taliadau gwasanaeth costus i’r preswylwyr. Mae gosod goleuadau ynni effeithlon wedi lleihau’r defnydd o drydan.
Roedd gan rai o’n heiddo rendrad a oedd wedi dod i ddiwedd ei oes ddefnyddiol. Achubwyd ar y cyfle, wrth ailosod y rendrad, i osod deunydd inswleiddio yn waliau allanol yr eiddo. Dyma oedd ein profiad cyntaf o optimeiddio gwaith ôl-osod i gyfuno gwaith a gynlluniwyd gyda mesurau decarboneiddio.
Rydym bellach yn gweithio tuag at safon PAS 2035 TrustMark. Fodd bynnag, roedd y cynllun hwn yn rhagflaenu’r gofyniad hwn.
Dysgu o’r prosiect
Y prosiect hwn oedd ein profiad cyntaf o optimeiddio gwaith ôl-osod â chyfuno ailosod rendrad wedi’i gynllunio ag insiwleiddio waliau allanol. Un her a wynebwyd hefyd oedd cyfuno hyn gyda’r rhaglen beintio gylchol gan fod un o’r eiddo wedi’i beintio ond ychydig amser yn ôl.
Heriau
Mae cyfuno cylchoedd amrywiol gyda mesurau decarboneiddio wedi bod yn heriol. Am y rheswm hwn, rydym yn bwriadu defnyddio SAVA Intelligent Energy, a fydd yn integreiddio â’n prif system rheoli tai, Civica, i’n cynorthwyo i gyfuno’r gwahanol raglenni.