Gwybodaeth Astudiaeth Achos
- Rhaglen Gymreig: ORP 3.1
- Math: ORP
- Math: Ôl-osod
- Cam: Gweithredol
- Safon ddylunio: SATC
- Mesur gwresogi: Gwresogi trydan
- Mesur gwresogi: Uwchraddio rheolaeth gwresogi
- Mesur gwresogi: Solar PV
- Mesur gwresogi: Storio ynni thermol
- Mesur arall: Monitro wrth ei ddefnyddio
- Mesur arall: System Ynni Deallus
- Mesur arall: Switsh dargyfeirio PV
Disgrifiad o'r prosiect
Daeth tŷ pâr o’r 1980au ym Mhontnewynydd yn wag a gwnaethom fanteisio ar y cyfle i’w ôl-osod ar gyfer y preswylwyr nesaf. Roedd yr eiddo wedi’i adeiladu â waliau dwbl a gwaith brics pigfain. Roedd teils concrit ar y to crib ac roedd trawstiau pren i’w cynnal. Roedd boeler cyfun nwy wedi’i osod a oedd wedi’i ddibrisio’n llwyr ac roedd angen ei newid. Roedd gan yr eiddo sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni o 70% (C). Penderfynwyd defnyddio hwn i dreialu’r cyfuniad o NexGen ar gyfer y gwresogi a batri Thermino gan Sunamp ar gyfer y dŵr poeth. Gosodwyd paneli solar hefyd i ddarparu ynni i redeg y Sunamp a hefyd i leihau’r angen am ynni o’r grid. Trwy gyfrwng y mesurau hyn, rydym yn ceisio gwella effeithlonrwydd ynni’r eiddo. Tra oedd y nenfydau i lawr ar ôl cael gwared ar asbestos, ailweiriwyd yr eiddo a gosodwyd uned defnyddwyr newydd. Roeddem yn meddwl ei bod yn fwy effeithlon gwneud y gwaith hwn tra oedd yr eiddo’n wag ac yn hygyrch. Gosodwyd system fonitro Aico hefyd. Ar ôl y gosodiad, roedd y sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni yn B uchel.
Dysgu o’r prosiect
Oherwydd datblygiadau yn y system gwresogi NexGen, defnyddiwyd y prosiect hwn fel cyfle hyfforddi pellach i’r contractwr a benodwyd i’r gwaith, a oedd â phrofiad blaenorol o gynnal gwaith gosod. Daethpwyd o hyd i asbestos yn yr eiddo ac arweiniodd hyn at oedi cyn dechrau’r gwaith wrth i ni ystyried y ffordd orau ymlaen. A’r contractwr bellach wedi’i uwchsgilio ac yn glir am y broses ar gyfer asbestos, byddem yn rhagweld y byddai prosiectau o natur debyg yn cael eu cwblhau yn gynt.
Arloesi yn y prosiect
Rheiddiadur papur wal isgoch trydan yw NexGen sy’n darparu cyfuniad gwres unigryw o 50% o wres pelydrol isgoch pell a 50% o wres dargludol. Mae’r cynnyrch arloesol yn system tymheredd arwyneb isel, foltedd isel, ddiogel iawn ac nid yw’n peri risg o anaf i unrhyw fodau dynol. Mae NexGen yn system ‘parth’ fesul ystafell, wedi’i gosod i rhwng 70% a 90% o’r nenfwd, gan wresogi o’r brig i lawr i wneud y gorau o effeithlonrwydd thermol. Gan fod y system yn cynhesu ardal fawr, mae hyn yn sicrhau nad oes graddiant tymheredd ar draws yr ystafell a bod y tonnau isgoch pell yn eich cyrraedd fel golau haul ysgafn, gan eich cynhesu yn gyntaf. Wrth dynnu’r boeler cyfun nwy, roedd yn rhaid i ni nid yn unig drin y system wresogi ond hefyd dod o hyd i ddatrysiad ar gyfer y dŵr poeth. Ar gyfer y datrysiad dŵr poeth, penderfynwyd treialu system Thermino ePlus gan Sunamp. Mae’r system hon yn cynnig dewis arall yn lle silindrau dŵr poeth uniongyrchol. Mae’r batris dŵr poeth yn gwneud y mwyaf o’r defnydd o ynni adnewyddadwy a gellir eu gwefru gan bympiau gwres o’r aer, pympiau gwres o’r ddaear, trydan o’r grid a boeleri, ac maent hefyd wedi’u diogelu at y dyfodol ar gyfer paneli solar ffotofoltäig. Gellir defnyddio’r system ar gyfer ôl-osod systemau dŵr poeth presennol ac, yn ogystal, gellir ei defnyddio mewn prosiectau adeiladu newydd. Mae’r dyluniad cryno yn golygu y gellir rhyddhau lle storio gwerthfawr.
Heriau
Oherwydd datblygiadau yn y system gwresogi NexGen, defnyddiwyd y prosiect hwn fel cyfle hyfforddi pellach i’r contractwr a benodwyd i’r gwaith, a oedd â phrofiad blaenorol o gynnal gwaith gosod. Daethpwyd o hyd i asbestos yn yr eiddo ac arweiniodd hyn at oedi cyn dechrau’r gwaith wrth i ni ystyried y ffordd orau ymlaen. A’r contractwr bellach wedi’i uwchsgilio ac yn glir am y broses ar gyfer asbestos, byddem yn rhagweld y byddai prosiectau o natur debyg yn cael eu cwblhau yn gynt.