Neidio i’r prif gynnwys

Cefndir

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys uwchraddio 28 o fflatiau llawr daear / llawr cyntaf ynghyd ag un tŷ annedd sengl, ac roedd eiddo lesddeiliaid wedi’i gynnwys yn y prosiect. Roedd y prosiect yn cynnwys gorchudd to llechi newydd ynghyd â philen anadladwy, deunydd inswleiddio llofft newydd, system inswleiddio waliau allanol Weber, ffenestri a drysau gwydr dwbl newydd, uwchraddio atal sain a nenfydau amddiffyn rhag tân rhwng fflatiau, ac uwchraddio gwaith amgylcheddol yn llawn.

Roedd rhan o’r prosiect yn cynnwys gosod paneli solar ffotofoltäig 4 kWh ymhob fflat/annedd ynghyd â storfa batri 5 kWh wedi’i gosod i safonau PAS 63100.

Roedd meincnod targed ansawdd o 75 yn y Weithdrefn Asesu Safonol, sef Tystysgrif Perfformiad Ynni C, fel isafswm interim.

Dysgu o’r prosiect

Y camau dysgu mwyaf arwyddocaol, fel gydag unrhyw brosiect, yw deialog gynnar gyda’r holl gyflenwyr arbenigol er mwyn deall gofynion cyn gynted â phosibl. Gan fod y prosiect hwn i’w gyflawni o dan PAS 2030/35, roedd yn hanfodol bod holl aelodau’r tîm yn ymwybodol o’u rolau. Felly darparwyd gweithdy PAS 2030/35 ar gyfer holl aelodau’r tîm, gan gynnwys y prif gontractwr, er mwyn iddynt ddeall y gofynion. Hefyd, cynhaliwyd deialog gynnar gydag iOpt, sef y darparwr offer arbenigol ar gyfer y system ynni ddeallus. Teimlwyd bod deialog gynnar yn hanfodol gan fod gofynion gweithredol y system ynni ddeallus yn gysyniad gweddol newydd i’r tîm ei ddeall.

Mae’r prosiect hwn bron â chael ei gwblhau, felly bydd yr astudiaeth achos hon yn cael ei diweddaru eto ar ôl ei chwblhau.

Arloesi yn y prosiect

Teimlwyd mai cyflwyno system ynni ddeallus oedd y rhan fwyaf arloesol o’r prosiect. Roedd deialog gynnar ag iOpt yn hawdd ac yn syml. Roedd iOpt, ar y cyd â LoRaWAN, wedi rhoi dealltwriaeth fanwl i ni o ofynion y system ynni ddeallus ac ati. Bydd synwyryddion y system ynni ddeallus yn ein helpu i ddeall a chynllunio gwaith effeithlonrwydd ynni sy’n gweddu orau i’r eiddo gan fod pob cartref ychydig yn wahanol. Er enghraifft, os gosodir mwy o ddeunydd inswleiddio o amgylch y tu allan i un o’r fflatiau, bydd synhwyrydd y system ynni ddeallus yn dangos a oes llai o danwydd yn cael ei ddefnyddio i wresogi’r cartref.