Neidio i’r prif gynnwys

Gwybodaeth Astudiaeth Achos

  • Rhaglen Cymru: Y Rhaglen Tai Arloesol
  • Math: Adeiladu newydd
  • Cam: Gweithredol
  • Safon ddylunio: Rheoliadau Adeiladu
  • Mesur gwresogi: Pympiau gwres o’r aer
  • Mesur arall: Awyru mecanyddol ac adfer gwres
  • Mesur arall: Solar ffotofoltaidd

Hwb Carbon Zero Cymru

Datblygwyd yr astudiaeth achos hon fel rhan o Hwb Carbon Zero Cymru, menter gydweithredol sy’n cael ei chydlynu gan Gymdeithas Tai ClwydAlyn a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Hwb yn dwyn ynghyd ddarparwyr tai ac arbenigwyr o bob rhan o’r wlad i gyflymu gwaith dysgu, i brofi arloesedd, ac i gynnig atebion ymarferol, carbon isel a fforddiadwy ym maes tai. Mae Gwynfaen yn enghraifft dda o genhadaeth yr Hwb o adeiladu lleoedd cynaliadwy sy'n iach, yn fforddiadwy, ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

Trosolwg o'r Prosiect

Datblygiad preswyl trawsnewidiol ym Mhen-yr-heol ger Abertawe yw Gwynfaen, sy’n cael ei arwain gan Grŵp Pobl mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe gyda chefnogaeth Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru. Mae’r datblygiad wedi’i rannu’n bum cam, a bydd y tri cham cyntaf yn darparu 144 o gartrefi fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni, a chanolfan gymunedol yng ngham 3, sydd â’r nod o feithrin byw cymunedol a gofal amgylcheddol.

Mae'r prosiect yn cyfuno gwaith adeiladu oddi ar y safle, pren o Gymru, a deunydd adeiladu perfformiad uchel gyda systemau ynni clyfar a seilwaith gwyrdd. Mae'n adlewyrchu uchelgais Grŵp Pobl o arwain y ffordd yn darparu tai carbon sero ar raddfa fawr.

“Fe wnaethon ni geisio creu pentref cyd-destunol, carbon isel sy’n agos at natur — nid dim ond datblygiad o 144 o gartrefi, ond lle go iawn gyda chymeriad, bioamrywiaeth ac enaid.”

Elfed Roberts, Pennaeth Cynaliadwyedd ac Arloesi Grŵp Pobl

Cartref lled-ddynodedig gyda phaneli solar ar y to ac arwyddion marchnata y tu allan.

Gweledigaeth ar gyfer Byw Carbon Isel 

Yng Ngwynfaen, mae pob cartref yn rhan o ecosystem ynni ehangach. Mae'r datblygiad, sydd wedi'i seilio ar fodel Cartrefi fel Pwerdai, yn galluogi cartrefi i gynhyrchu, storio a rheoli eu hynni eu hunain. 

  • Pympiau gwres o’r aer a thanciau dŵr poeth 
  • Paneli solar ffotofoltaidd 
  • Systemau storio batri
  • Apiau ynni cartref clyfar
  • Systemau mecanyddol ac adfer gwres 
  • Pwyntiau gwefru cerbydau trydan 

Gyda'i gilydd, mae'r technolegau hyn yn lleihau biliau ynni'n sylweddol, gyda rhai cartrefi'n gweld costau misol sydd mor isel â £33–£90; maent hefyd yn dod â lefelau carbon gweithredol yn agos at sero. 

Mae gwaith monitro ar ôl i gartrefi gael eu meddiannu yn cael ei gynnal er mwyn asesu eu perfformiad yn y byd go iawn. Mae dangosyddion cynnar o brosiectau tebyg yn dangos biliau sylweddol is a gwell boddhad preswylwyr dros amser. 

Ystafell fyw chwaethus gyda dodrefn modern, lloriau pren tywyll, a goleuadau addurnol.

Wedi'i gynllunio ar gyfer Pobl a Natur

Roedd syniadaeth creu lleoedd wrth wraidd gweledigaeth Gwynfaen o'r cychwyn cyntaf. Cyn dylunio’r un cartref, dechreuodd y tîm gyda'r tirlun, gan siapio'r safle o gwmpas natur yn hytrach na’r ffordd arall. 

Y canlyniad yw cynllun pentrefol sydd â maes glas cymunedol yn ei ganol, coridorau bioamrywiaeth a phantiau cysylltiedig, a strydoedd cerdded er mwyn hyrwyddo teithio llesol a chysylltiadau lleol. 

Rhan allweddol o’r agwedd gyda Gwynfaen yw defnyddio deunyddiau naturiol o ffynonellau lleol fel pren o Gymru ac inswleiddio ffeibr naturiol, er mwyn lleihau'r effaith amgylcheddol a gwella lles y preswylwyr. Mae'r deunyddiau hyn yn helpu i greu mannau byw iach a braf i anadlu lle mae ansawdd yr aer yn dda, gan gefnogi cysur a hamdden. 

“Fe wnaethon ni gynllunio rhannau gwyrdd y datblygiad cyn yr adeiladau — agwedd sy’n cael ei harwain gan y tirlun, sydd bron yn unigryw.”    

Elfed Roberts, Pennaeth Cynaliadwyedd ac Arloesi Grŵp Pobl 

Golygfa o'r awyr o ddatblygiad tai mawr wedi'i amgylchynu gan ardaloedd preswyl presennol a mannau gwyrdd.

Ymdrin â blaenoriaethau sy’n gwrthdaro wrth ddylunio strydoedd 

Un her allweddol oedd gwrthwynebiad yr Adran Priffyrdd i amcanion creu lleoedd a datgarboneiddio'r prosiect. Er gwaethaf cefnogaeth yr awdurdod cynllunio a'r Comisiwn Dylunio ar gyfer nodweddion fel lonydd cerbydau culach, seilwaith gwyrdd, a pharthau cartrefi, gwrthododd yr adran priffyrdd y cynigion oherwydd pryderon ynghylch diogelwch a chynnal a chadw, yn enwedig gan fod rhagor o draffig dosbarthu nwyddau ers cyfnod COVID. Gorfododd hyn newidiadau mawr o ran dylunio, a rhwystrwyd y broses o fabwysiadu strydoedd.

Ar y llaw arall, yn sgil deddfwriaeth newydd Cymru sy’n ymwneud â systemau draenio cynaliadwy, roedd modd integreiddio pantiau, gerddi glaw a choridorau gwyrdd, gan gryfhau prosesau rheoli dŵr wyneb a gwella tir y cyhoedd a’r nodau amgylcheddol. 

Hwb Cymunedol

Un o nodweddion diffiniol Gwynfaen yw'r Hwb Cymunedol, sy'n cael ei ddarparu fel rhan o Gam 3. Bydd yr hwb, sydd yng nghanol y cynllun, yn cynnwys caffi ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymgynnull a chynnal gweithdai, gweithgareddau lles a digwyddiadau cymdeithasol — gan greu lle croesawgar i bobl gwrdd.

Bydd yr hwb yn cynnwys elfennau allgymorth cymunedol, ochr yn ochr â'i brif swyddogaeth o gynnig lle dymunol i breswylwyr ac ymwelwyr ddod at ei gilydd yn anffurfiol. Drwy osod y ganolfan hon yng nghanol y datblygiad, mae'r prosiect yn helpu i sicrhau bod Gwynfaen yn teimlo fel mwy na dim ond casgliad o gartrefi: mae'n dod yn lle lle gall pobl gysylltu a mwynhau profiadau gyda’i gilydd.

Adeiladu a deunyddiau

Mae cynaliadwyedd yn ymestyn i ddeunydd y cartrefi ei hunan. Rhan allweddol o’r agwedd gyda Gwynfaen yw defnyddio deunyddiau naturiol o ffynonellau lleol fel pren o Gymru ac inswleiddio ffeibr naturiol, er mwyn lleihau'r effaith amgylcheddol a gwella lles y preswylwyr.  

Mae'r deunyddiau naturiol hyn yn helpu i reoli lleithder yn yr adeiladwaith, gan leihau risgiau’n ymwneud â llwydni ac anwedd, a chreu mannau byw iach a chyfforddus lle mae ansawdd yr aer dan do yn dda.

Mae systemau paneli pren lleol yn cael eu hadeiladu o fewn deg milltir i'r safle, gan leihau allyriadau trafnidiaeth a chefnogi swyddi lleol. Mae'r deunyddiau'n cynnwys:

  • Cladin o bren llarwydd a chedrwydd sydd wedi’i dyfu yng Nghymru
  • Ffeibr pren i inswleiddio
  • Ffyn lefelu o galch a gwydr ewyn wedi'i ailgylchu
  • Ffenestri a drysau ffrâm bren a gwydr triphlyg
  • Cerrig pennant o Gwm Nedd

Gwynfaen yw'r prosiect cyntaf gan Grŵp Pobl i gwblhau Asesiad Carbon Oes Gyfan, gan osod safon newydd ar gyfer allyriadau ymgorfforedig a gweithredol.

Mae'r cartrefi hefyd yn cynnwys toeau ar oleddf gydag “atig parod” a thrawstiau sy'n hwyluso’r gwaith o drosi’r atig yn y dyfodol, gan gynnig gofod hyblyg sy’n cefnogi hirhoedledd.

“Mae'r contract adeiladu yn mynnu bod rhaid defnyddio isgontractwyr lleol. Mae hynny'n helpu i gryfhau'r gadwyn gyflenwi ranbarthol ac yn cefnogi'r economi sylfaenol.”  

— Cais i’r Rhaglen Tai Arloesol, 2019

Goblygiadau Cost: Er bod y costau ymlaen llaw yn uwch na gwaith adeiladu safonol, mae'r cartrefi hyn yn cynnig arbedion sylweddol ar hyd eu hoes drwy filiau ynni llawer is a drwy gael gwared ar yr angen i ôl-osod yn y dyfodol agos, gan gefnogi preswylwyr drwy eu gwneud yn fforddiadwy yn y tymor hir.

Llinell gydosod ffatri yn cynhyrchu paneli pren wedi'u hinswleiddio ar gyfer adeiladu.

Polisi, safonau a fframweithiau

  • Mae Gwynfaen yn cyd-fynd ag amrywiaeth o fframweithiau cenedlaethol a lleol sydd â’r nod o gefnogi cartrefi gwell, cymunedau cryfach ac amgylchedd adeiledig mwy cynaliadwy:
  • Rheoliadau Adeiladu Rhan L (2014) – Yn gosod lleiafswm o ran gofynion effeithlonrwydd ynni ar gyfer adeiladau yng Nghymru. Mae Gwynfaen yn rhagori ar y rhain gyda deunydd perfformiad uchel a systemau ynni adnewyddadwy.
  • Llawlyfr Strydoedd 2 – Yn annog cynlluniau strydoedd sy'n addas i’w cerdded ac sy’n rhoi pobl yn gyntaf. Mae Gwynfaen yn cofleidio hyn drwy strydoedd gwyrdd sy’n cysylltu â’i gilydd.
  • Siarter Creu Lleoedd Cymru – Ymrwymiad i egwyddorion dylunio sy'n cefnogi lles. Mae Gwynfaen yn ymgorffori pob un o'r chwe egwyddor graidd sy'n cynnwys blaenoriaethu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus; cynnwys y gymuned leol yn y gwaith o ddatblygu cynigion, a strydoedd a mannau cyhoeddus diogel sydd wedi'u cynllunio'n dda.
  • Diogelu drwy Ddylunio – Yn sicrhau bod dyluniad ffisegol adeiladau a lleoedd yn helpu i atal troseddu. Mae cynlluniau Gwynfaen yn cefnogi diogelwch a gwyliadwriaeth naturiol.
  • Gofynion Ansawdd Datblygu 2005 – Safonau gofod a dylunio blaenorol Llywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy. Mae Gwynfaen yn cydymffurfio â’r rhain drwyddo draw.
  • Rhaglen Tai Arloesol (Llywodraeth Cymru) – Dyfarnwyd £9.5 miliwn i Gwynfaen o dan Raglen Tai Arloesol 2019/20 er mwyn peilota gwaith adeiladu cynaliadwy a thai di-garbon.
  • Canllaw Creu Lleoedd Cyngor Abertawe ar gyfer Datblygiadau Preswyl Newydd. Mae Gwynfaen nid yn unig yn dilyn y canllawiau hyn; cyfeirir ato ddwywaith fel esiampl.
  • Gofynion Ansawdd Datblygu 2005 – Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau Grant Tai Cymdeithasol, gan nodi gofynion gofod a dylunio a hyrwyddo Cartrefi Gydol Oes (sy'n hawdd eu haddasu ar gyfer hygyrchedd yn y dyfodol). Dilynodd Gwynfaen y gofynion hyn, sydd wedi cael eu disodli erbyn hyn gan Ofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 – “Mannau a Chartrefi Prydferth”.
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 – Deddf arloesol yng Nghymru sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol hirdymor. Mae Gwynfaen yn cyfrannu'n uniongyrchol at y nodau:
  • Lle (dyluniad sy’n rhoi’r gymuned yn gyntaf, lle gellir cerdded)
  • Ynni (systemau fforddiadwy, carbon isel)
  • Carbon (lleihau carbon ymgorfforedig a gweithredol)

Technoleg ac Ynni Clyfar

Mae gan gartrefi Gwynfaen systemau ynni clyfar a glân:

  • Solar ffotofoltaidd: Viridian Clearline Fusion
  • Storio Batri: Sonnen, Duracell
  • Pympiau gwres: Vaillant a Mitsubishi
  • Awyru mecanyddol ac adfer gwres: Wedi'i gynhyrchu gan Nuaire gyda llwybr osgoi ar gyfer yr haf i atal gorboethi
  • Apiau clyfar: Canllawiau defnyddwyr gyda chodau QR, dulliau rheoli ynni symudol
  • Allgludo: Mae cartrefi wedi'u galluogi i allgludo i'r grid

Mae dyluniad heulsaf goddefol, cyfeiriadu gofalus, a gwydr triphlyg yn sicrhau cysur thermol drwy gydol y flwyddyn.

Datblygiad tai modern gyda chartrefi wedi'u gorchuddio â phren a'u rendro'n wyn o dan awyr gymylog.

Gwersi a ddysgwyd  

  • Mathau cymhleth o dai – Roedd cynnwys 23 o wahanol fathau o dai yn creu aneffeithlonrwydd o ran dylunio a chyflenwi. Bydd prosiectau yn y dyfodol yn symleiddio’r cynlluniau er mwyn gwella cost-effeithiolrwydd a symleiddio'r gwaith adeiladu.
  • Dewisiadau cladin – Achosodd y defnydd cychwynnol o bren llarwydd o Gymru broblemau o ran manylder a pherfformiad, gan arwain at newid i Gedrwydd oedd yn ddewis gwell ar gyfer y dyluniad.
  • Gwrthdaro o ran gwarantiad – Ni allai’r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai gymeradwyo rhai deunyddiau naturiol arloesol. Tynnodd hyn sylw at yr angen i gydbwyso arloesedd â gofynion o ran gwarantiad.
  • Morgeisadwyedd – Gwrthodwyd rhai o’r manylebau ar gyfer cladin pren gan fenthycwyr, gan ddangos pwysigrwydd ymwneud yn gynnar â’r farchnad forgeisi er mwyn sicrhau na fydd anawsterau o ran darparu cyllid. 
  • Heriau o ran Mabwysiadu Strydoedd – Gwrthododd adran Priffyrdd Abertawe y cynllun strydoedd gwyrdd. Er y bu’n rhaid cyfaddawdu ychydig, gyda nodweddion systemau draenio cynaliadwy llwyddwyd i gadw llawer o fwriadau’r dyluniad cynaliadwy. 
  • Comisiynu Technegol – Yn sgil signal ffôn symudol gwan ar y safle, bu oedi wrth sefydlu systemau ynni, gan fod angen cysylltiad rhyngrwyd er mwyn eu comisiynu. Yn y camau nesaf, bydd Wi-Fi yn cael ei osod ar draws y safle yn ystod y gwaith adeiladu er mwyn osgoi'r broblem hon.
  • Cynefino Preswylwyr – Mae angen mwy o gefnogaeth i breswylwyr o ran gosod apiau clyfar, cael mynediad at daliadau SEG, a deall technolegau cartref newydd.

Rhestr termau  

  • HAPS – Cartrefi fel Pwerdai
  • ASHP – Pwmp gwres o’r aer
  • MVHR – Awyru mecanyddol ac adfer gwres
  • SuDS – Systemau draenio cynaliadwy
  • WLCA – Asesiad Carbon Oes Gyfan
  • Pantiau – Sianeli bas o lystyfiant, sy'n rheoli dŵr glaw ffo ar yr wyneb, yn gwella bioamrywiaeth, ac yn cefnogi draenio cynaliadwy
  • Gweithgynhyrchu oddi ar y safle – Cartrefi wedi'u hadeiladu mewn ffatri a'u cydosod ar y safle

Paratowyd yr astudiaeth achos hon gan y Gynghrair Cartrefi Da ar gyfer Hwb Carbon Zero Cymru

http://goodhomes.org.uk/