Gwybodaeth Astudiaeth Achos
- Rhaglen Cymru: Y Rhaglen Tai Arloesol
- Math: Adeiladu newydd
- Cam: Gweithredol
- Safon ddylunio: Passivhaus
Cyfleuster cynhyrchu a hyfforddi 1,500 metr sgwâr newydd a fydd yn cael ei adeiladu’n bwrpasol i safon perfformiad Passive Plus, gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy i bweru nid yn unig yr adeilad ei hun ond yr offer cynhyrchu hefyd.
Bydd y cynllun hwn yn cyflawni gweithgynhyrchu ystwyth trwy gyfuniad arloesol o lafur wedi’i awtomeiddio a llafur dynol i gynhyrchu amrywiaeth eang o anheddau newydd a phecynnau ôl-osod gan ddefnyddio cyfuniadau o gydrannau cyfeintiol, panel a ffrâm. Bydd yn darparu cartrefi carbon bositif perfformiad uchel ar raddfa a chyflymder, i greu model menter bartneriaeth arloesol y gellir ei atgynhyrchu, ac sy’n seiliedig ar ddysgu gweithredol, ymhlith nifer o ddarparwyr tai cymdeithasol, yn defnyddio cadwyni cyflenwi lleol a darparu cyfleoedd gwaith hygyrch a chynaliadwy sy’n aros ar y blaen ac yn darparu’r cartrefi gorau i Gymru.