Cefndir
Mae Cyngor Sir Ddinbych, trwy gyllid Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1, wedi cynnal rhaglen profi a dysgu yn manylu ar sut i optimeiddio cyflwyno mesurau ôl-osod i leihau allyriadau CO2 a chefnogi tenantiaid yn Sir Ddinbych. Ar gyfer Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 1.0, dewiswyd 54 eiddo yn Alltmelyd, Prestatyn, er mwyn inswleiddio’r waliau allanol â gwlân craig, cael toeau newydd wedi’u hinswleiddio, a chael systemau paneli solar ffotofoltäig a batris gyda’r nod o leihau CO2e, gan wneud y cartrefi’n gynhesach ac arwain at filiau trydan is a bywydau gwell. Roedd yr eiddo hefyd yn cynnwys pyrth â gwifrau a synwyryddion i fonitro’r defnydd o ynni a’r amgylchedd. Mae’r canfyddiadau o ddata a gasglwyd o’r paneli solar ffotofoltäig a synwyryddion amgylcheddol, yn ogystal ag adborth gan denantiaid, a Thystysgrifau Perfformiad Ynni wedi’u diweddaru, yn dangos y gall datgarboneiddio fod o fudd i denantiaid a’r amgylchedd. Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2020 a chafodd ei gwblhau erbyn mis Mai 2022.
Dysgu o’r prosiect
- Ar ôl y gwaith ôl-osod, codwyd sgoriau Tystysgrif Perfformiad Ynni pob eiddo i A, B neu C
- Dadansoddwyd y paneli solar ffotofoltäig i nodi’r perfformiad gorau. Nid oedd yn syndod mai hwn oedd gan baneli â lleoliad sy’n wynebu’r de. Fodd bynnag, roedd cysgodion ar doeau hefyd yn effeithio ar ba mor dda y mae system paneli solar ffotofoltäig yn gweithredu. Roedd batris yn cael eu storio yn hwy na’r amser a ddymunir o ganlyniad i gyfyngiadau symud Covid-19 ac felly roedd angen gwaith cynnal a chadw ychwanegol. Penderfynwyd peidio ag adnewyddu’r systemau hyn nes bod dealltwriaeth well o’r gofynion cynnal a chadw ac iechyd a diogelwch ar gyfer batris.
- Mae dadansoddiad o arbedion yn dangos amrywiaeth eang o fuddion yn dibynnu ar ffactorau allanol; fodd bynnag, mae pob eiddo wedi gweld arbedion o ganlyniad i’r inswleiddio a’r paneli solar ffotofoltäig.
- Gall simneiau, a choed, leihau’r ynni a gynhyrchir yn fawr gan nad yw gwrthdroyddion wedi’u cynllunio ar gyfer paneli sydd i gyd yn cynhyrchu symiau gwahanol o drydan. Yn ddiweddarach (ar ôl Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.2), defnyddiwyd optimeiddwyr pŵer, sy’n helpu i leihau’r ynnu a gollir oherwydd cysgodion. Byddwn hefyd yn ystyried gwrthdroyddion micro. Yr opsiwn olaf i wneud y gorau o’r paneli solar ffotofoltäig yw gosod paneli mewn lleoliad sy’n wynebu’r de yn unig (gweler yr astudiaeth achos ar gyfer Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 3.2 yn Sir Ddinbych). Mae hyn yn haws lle mae pob eiddo ar stryd yn wynebu’r de.
- Yn y ffair swyddi a gefnogir gan Sustainable Building Services (UK) Ltd yn Neuadd Dref y Rhyl, dangosodd deg o bobl ddiddordeb mewn gyrfa mewn ôl-osod.
- Mae technoleg bob amser yn esblygu, gall diogelu eiddo at y dyfodol fod yn gymhleth, ac mae’n well gwneud prosiectau llai a bob amser chwilio er mwyn dod o hyd i ddyfeisiau rhatach (technoleg a data) a mwy effeithlon sy’n haws eu cynnal a chadw ac i denantiaid eu defnyddio.
- Mae hyfforddiant ar gyfer gosod technolegau mewn tai cymdeithasol yn cynnwys gosod paneli solar ffotofoltäig, gwrthdroyddion a batris. Mae dysgu am leoliad paneli solar ffotofoltäig, gofynion cynnal a chadw batris, ac effaith cysgodion o simneiau, adeiladau cyfagos a choed bellach wedi’i ddeall yn well.
Arloesi yn y prosiect
Roedd y prosiect hwn yn gweld y defnydd cyntaf o baneli solar ffotofoltäig mewn tai cymdeithasol ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych, y defnydd cyntaf o system ynni ddeallus a synwyryddion amgylcheddol yn nhai Cyngor Sir Ddinbych, a’r defnydd cyntaf o wlân craig i inswleiddio waliau allanol yng Nghyngor Sir Ddinbych.
Heriau
- Nid oedd gan dri eiddo baneli solar ffotofoltäig oherwydd problemau yn ymwneud â waliau cydrannol
- Yn anffodus, nid oedd waliau allanol saith eiddo yn cael eu hinswleiddio oherwydd problemau mynediad
- Mae gosod a chael buddion o synwyryddion system ynni ddeallus a synwyryddion amgylcheddol yn dibynnu ar sawl ffactor cyfyngol: mynediad i’r eiddo, gosodiad cywir, darllen codau QR a rhifau cyfresol yn gywir, cysylltiad rhyngrwyd da, cost data telathrebu, dangosfwrdd da sy’n arddangos data yn gywir, yn ogystal â dadansoddiad cywir o’r data. Mae rhwystrau mewn unrhyw ran o’r gadwyn hon yn arwain at fylchau data drud
- Aeth batris i mewn yn hwyr oherwydd cyfyngiadau symud Covid-19 ac mae hyn wedi cael effaith hirdymor ar gynnal a chadw’r batris
- Roedd sawl mater yn effeithio ar gyflwyno synwyryddion system ynni ddeallus, paneli solar ffotofoltäig a batris yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19
- Roedd batris yn y storfa, gan ddiddymu’r warant, sy’n nodi na ddylid gadael batris heb eu defnyddio am gyfnod estynedig.
- Roedd gosod technolegau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i denantiaid ymgysylltu yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud cyson a hunanynysu.