Gwybodaeth Astudiaeth Achos
- Rhaglen Cymru: Y Rhaglen Tai Arloesol
- Math: Adeiladu newydd
- Cam: Gweithredol
- Safon ddylunio: SOLCER / Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer
- Mesur gwresogi: Pympiau gwres o’r aer
- Mesur arall: Awyru mecanyddol ac adfer gwres
- Mesur arall: Solar ffotofoltaidd
- Mesur arall: Casglwr Solar Trydarthol Heb Wydr
Mae’r datblygiad yn cynnwys 16 eiddo ar gyfer rhent cymdeithasol, yn cynnwys fflatiau un ystafell wely a thai dwy a thair ystafell wely. Datblygwyd y safle gan Grŵp Pobl, ac fe’i hariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (trwy Lywodraeth Cymru) ac Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) Llywodraeth y DU fel rhan o’r prosiect ‘Adeiladu ar gyfer 2050’.
Mae dyluniad yr adeilad yn seiliedig ar brosiect Tŷ SOLCER (safle Cenin, Stormy Down, De Cymru), sef “y tŷ effeithlon o ran ynni fforddiadwy cyntaf i gael ei adeiladu yn y DU”. “Fe wnaethon ni gymryd syniad Tŷ SOLCER a’i gymhwyso i ddyluniad ychydig yn fwy confensiynol… Felly mae’r gyfres o dechnolegau, y casglwr ynni solar [trydarthedig], y batri, y paneli solar ffotofoltäig, y pwmp gwres o’r aer – roedd pob un ohonynt yn seiliedig ar Solcer House” (Arbenigwr 13).
Mae’r cartrefi’n cynhyrchu gwres trwy gasglwyr ynni solar trydarthedig wedi’u gorchuddio ar waliau a thrydan trwy doeau integredig solar gan BIPVco, gyda phympiau gwres o’r aer i ddarparu dŵr poeth ar gyfer yr eiddo. Mae gan yr eiddo baneli wedi’u hinswleiddio’n adeileddol, system awyru mecanyddol gydag adfer gwres, a batris Powerwall Tesla sy’n galluogi storio ynni.
Mae’r safle wedi dioddef sawl rhwystr, a oedd yn gysylltiedig â draenio a daearegau lleol i ddechrau, yna namau gosod technegol, ac yna anawsterau diweddarach o ran sicrhau tymereddau dan do sy’n ddigon uchel er mwyn gosod yr eiddo i denantiaid cymdeithasol. Mae’r amser a gymerwyd i ddatrys problemau technegol hefyd wedi cael ei estyn o ganlyniad i gyfyngiadau symud Covid-19. Ychwanegwyd at y pwysau i ddatrys y problemau technegol gan yr angen i adael i drigolion a ddewiswyd ar gyfer y datblygiad yn ystod 2018 symud i mewn cyn gynted â phosibl.
Ar ôl ymchwiliad gan Pobl a’r contractwyr peirianneg cysylltiedig, canfuwyd nad oedd yr system awyru mecanyddol gydag adfer gwres a osodwyd fel cyfuniad o hidlydd aer a chylchrediad gwres, gyda gwres wedi’i ailgylchu o aer cynnes a gynhyrchir gan gasglwyr ynni solar trydarthedig, yn darparu digon o wres. Ceisiwyd cynyddu capasiti ffaniau’r system awyru mecanyddol gydag adfer gwres er mwyn datrys hyn; fodd bynnag, roedd hyn yn aflwyddiannus. Yn 2020, gosodwyd rheiddiaduron trydan panel ar waliau ledled y cartrefi i ddarparu ffynhonnell wres ychwanegol.
Ers i’r preswylwyr symud i mewn i’r eiddo yng Nghlos y Wawr, mae nifer o problemau cyffredin wedi cael eu hadrodd i Pobl. Mae’r rhain yn cynnwys problemau cyffredinol sy’n gysylltiedig â symud i gartref newydd ei adeiladu (h.y. gollyngiadau bach, teils wedi torri), a materion technegol sy’n gysylltiedig â’r dechnoleg ynni. Pryder arbennig oedd bod trigolion yn cael biliau ynni uchel iawn, er bod disgwyl y gwrthwyneb i hyn.
Mae Pobl wedi cyfarfod ag aelodau pob cartref i geisio deall yn union beth yw’r problemau ym mhob eiddo. Bu ffocws y problemau fel a ganlyn: tymereddau oer, ac aer oer o’r system awyru mecanyddol gydag adfer gwres, dim digon o ddŵr poeth (ar gyfer tai aml-deiliadaeth), methu cael mynediad at ap batri Tesla, ac yn olaf biliau ynni uchel. Ar ôl ystyried pryderon y trigolion, mae Pobl wedi gweithio gyda’r contractwyr a’r ymgynghorwyr i geisio datrys y problemau.