Gwybodaeth Astudiaeth Achos
- Rhaglen Gymreig: ORP
- Math: Ôl-osod
- Cam: Gweithredol
- Safon ddylunio: PAS 2030/35
- Mesur arall: Monitro wrth ei ddefnyddio
- Mesur arall: Solar ffotofoltaidd
Cefndir
Roedd 33 eiddo yn y prosiect hwn, a oedd yn cynnwys fflatiau, byngalos a thai 2b a 3b wedi’u rhannu rhwng 11 safle ar wahân ar draws Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys cymysgedd o eiddo annibynnol a strydoedd cyfan.
Mesurau a gynigiwyd
Roedd y prosiect yn seiliedig ar waith ôl-osod er mwyn optimeiddio ar 33 o gartrefi, gyda gwaith yn cynnwys gosod ffenestri a drysau newydd, gosodiadau i baneli solar ffotofoltäig, a gosodiadau inswleiddio waliau allanol neu fewnol, yn ogystal ag uwchraddio gosodiadau insiwleiddio mewn atigau, uwchraddio systemau gwresogi trydan, gosodiadau silindr clyfar ac uwchraddio systemau awyru. Roedd hefyd angen cyllid i osod offer monitro systemau ynni deallus, a fydd yn darparu data ar gyfer Llywodraeth Cymru ar effeithiolrwydd y mesurau a fabwysiadwyd.
Ymrwymodd Bro Myrddin i gontract gyda Tycroes Group ar gyfer y gwaith datgarboneiddio.
Er mwyn sicrhau bod y trefniant gyda Tycroes yn parhau i fod yn gosteffeithiol a’i fod wedi’i reoli’n dda, talodd Cymdeithas Tai Bro Myrddin am gymorth gan weinyddwr contractau. Er mai Tycroes oedd y prif gontractwr, gwnaed llawer o’r gwaith gan is-gontractwyr, gyda Tycroes yn cael dyfynbrisiau (mewn cystadleuaeth) ac yn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am reoli’r gwaith yn effeithiol ac yn ddiogel.
Mae’r gwaith canlynol wedi’i wneud ar draws yr eiddo a nodwyd:
- 30 o ffenestri a drysau allanol
- 29 o baneli solar ffotofoltäig
- 28 o silindrau dŵr poeth clyfar Solar X gan Mixergy
- 10 uwchraddiad gwresogi Quantum
- 31 system ynni ddeallus / monitorau amgylcheddol
- 5 wal allanol wedi’u hinswleiddio
- 3 wal fewnol wedi’u hinswleiddio
- 22 uwchraddiad i systemau awyru
- 2 archwiliad waliau dwbl
- 31 uwchraddiad i ddeunydd inswleiddio mewn atigau
Heriau
Hon oedd rownd gyllido gyntaf Cymdeithas Tai Bro Myrddin ac, o’r herwydd, roedd staff yn camu i diriogaeth newydd a oedd yn gofyn am sgiliau newydd. Roedd y broses o wneud cais am gyllid, nodi eiddo a chyfarwyddo contractwr cymwys oll yn heriau a wynebwyd trwy gydol y prosiect. Lluniwyd contract rhwng Cymdeithas Tai Bro Myrddin a Tycroes Group, sy’n gyflenwr dibynadwy y mae perthynas gref yn bodoli gyda nhw eisoes. Roedd gallu gweithio mewn partneriaeth yn bwysig i Gymdeithas Tai Bro Myrddin ac felly roeddem yn hapus i weithio gyda phartner yr oeddem yn gwybod y byddai’n gwneud gwaith o ansawdd da gan ddefnyddio adnoddau lleol.
Roedd Cymdeithas Tai Bro Myrddin hefyd yn wynebu her o ran nodi eiddo a mesurau i’w cyflawni mewn cyfnod cymharol fyr heb gael gwybodaeth lawn am ddata asedau. Mae’r rowndiau cyllido dilynol wedi bod yn fwy hwylus am fod data asedau ar gael yn haws.