Neidio i’r prif gynnwys

Gwybodaeth Astudiaeth Achos

  • Rhaglen Gymreig: ORP
  • Math: Ôl-osod
  • Cam: Gweithredol
  • Safon ddylunio: Rheoliadau Adeiladu
  • Safon ddylunio: PAS 2030/35
  • Safon ddylunio: SATC
  • Mesur arall: Storio batri (BESS)
  • Mesur arall: System Ynni Deallus
  • Mesur arall: Solar ffotofoltaidd

Cefndir

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys gosod systemau ynni deallus a systemau paneli solar ffotofoltäig gyda storfa batri mewn 60 eiddo ar draws 16 ardal awdurdod lleol (gan gynnwys Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Wrecsam). Dechreuodd y prosiect ym mis Mai 2021 a’r nod yw ei orffen erbyn diwedd 2025.

Dysgu o’r prosiect

Yn dilyn matrics integreiddio mesur ôl-osod PAS 2030/35, dewiswyd paneli solar oherwydd bod y rhyngweithio â mesurau ôl-osod eraill yn annibynnol. Roedd hefyd yn golygu y byddai tenantiaid, gobeithio, yn elwa o gael biliau ynni is, oherwydd bod y trydan yn cael ei gynhyrchu a’r pŵer dros ben yn cael ei storio ar fatris solar yn yr eiddo. Roedd lleoliad y batris solar yn rhan o ddysgu’r prosiect, gan nad oedd cypyrddau storio bob amser yn addas a bu’n rhaid cytuno ar leoliad y batris, er mwyn sicrhau nad oeddent yn cael eu gosod ar lwybr dihangfa dân.

Arloesi yn y prosiect

Roedd y system paneli solar ffotofoltäig yn cynnwys storfa batri fel y gallai tenantiaid elwa o’r holl drydan a gynhyrchir drwy’r paneli solar ffotofoltäig.

Heriau

Roedd sawl her i’r prosiect:

  1. Roedd lleoliad y gosodiadau i eiddo arfaethedig ar draws yr 16 ardal awdurdod lleol yn un o’r prif heriau, gan fod y prosiect yn defnyddio contractwr o dde Cymru.
  2. Y math unigryw o denant. Yn gyffredinol, mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf yn darparu tai i denantiaid ag anableddau dysgu neu gorfforol a gallai amhariad y gwaith arfaethedig achosi trallod i rai tenantiaid.
  3. Roedd canfod nad oedd gan rai o’r gorchuddion to, megis teils Rosemary neu deils Cambrian, system osod ag ardystiad MCS yn her arall, ac roedd hyn yn golygu bod y gwaith ar yr eiddo hyn wedi’i ohirio nes bod gosodiad cymeradwy ar gael.
  4. Nid oedd rhai darparwyr cymorth / tenantiaid yn deall pam fod paneli solar yn cael eu gosod hyd yn oed ar ôl yr ymgynghoriad cychwynnol, a arweiniodd at rai achosion o wrthod cael batris solar yn yr eiddo, felly gohiriwyd y gwaith ar yr eiddo hyn hefyd hyd nes y gellir dod o hyd i ateb batri allanol neu’r eiddo’n cael ei ailosod.