Neidio i’r prif gynnwys

Cefndir

Targedwyd 74 o gartrefi o fewn portffolio tai Adra yn y prosiect hwn, gan ganolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ynni trwy gyfres o fesurau ôl-osod. Roedd yr ymyriadau sylfaenol yn cynnwys ariannu gwaith a oedd i'w wneud gan ddefnyddio ymagwedd ‘gwneuthuriad yn gyntaf’: inswleiddio waliau allanol a gosod systemau ynni deallus a drysau a ffenestri a fyddai’n cyfrannu at wella’n sylweddol sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni ystod eang o eiddo ar draws portffolio Adra. Yn ogystal â chyfrannu at y nod terfynol o ddadgarboneiddio cartrefi, mae cyllid y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio hefyd yn ffactor pwysig sy’n cyfrannu at sicrhau bod safonau byw cyffredinol tenantiaid Adra yn cael eu sicrhau a’u gwella. Yn y pen draw, wrth i amser fynd heibio, bydd ein tenantiaid yn elwa o’r systemau a weithredir o’r cynllun, a fydd yn gostwng biliau ynni ac yn sicrhau amgylchedd mwy cyfforddus yn eu cartrefi priodol. Dyrannwyd gwariant yr arian tuag at 74 o gartrefi ar draws pedwar cynllun o fewn portffolio Adra yn ardaloedd Criccieth, Dyffryn Ardudwy, Blaenau Ffestiniog a Phenrhyndeudraeth.

Targedau ansawdd

Roedd y targedau ansawdd ar gyfer prosiect Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1 Adra yn cyd-fynd ag amcanion amgylcheddol a chymdeithasol: Effeithlonrwydd Ynni: Roedd gostyngiad yn y defnydd o ynni yn darged allweddol ac roedd ffocws penodol ar ddysgu wrth i ni symud ymlaen tuag at allu cyflawni gofynion PAS 2030/35, sydd wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru. Lleihau Carbon: Nod y prosiect oedd gwneud cynnydd sylweddol tuag at darged Cymru o allyriadau carbon sero net trwy leihau allbwn carbon y cartrefi y dewiswyd eu hôl-osod. Cysur a Lles Tenantiaid: Y tu hwnt i arbedion ynni, targedodd y prosiect well ansawdd aer dan do, tymereddau cyson dan do, a gwell amodau byw cyffredinol i breswylwyr. Costeffeithiolrwydd: Roedd sicrhau bod y broses ôl-osod yn gynaliadwy yn ariannol yn hollbwysig. Roedd y prosiect yn golygu cwblhau mesurau lluosog i sicrhau costeffeithiolrwydd ac effeithiolrwydd technegol. Cael gwared ar simneiau segur: Manteisiodd Adra ar y cyfle i gael gwared ar simneiau segur ar y cyd ag inswleiddio waliau allanol a chynnal gwaith toi. Mae hyn yn sicrhau bod eiddo wedi’u hawyru’n ddigonol ac yn addas ar gyfer systemau gwresogi modern yn y dyfodol, wrth hefyd gael gwared ar faterion/costau cynnal a chadw yn y dyfodol a allai godi oherwydd simneiau segur.

Dysgu o’r prosiect

Darparodd prosiect Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1 gyfleoedd dysgu gwerthfawr i Adra, sy’n hanfodol ar gyfer cynyddu ymdrechion ôl-osod yn y dyfodol: System Ynni Ddeallus: Trwy osod system ynni ddeallus cyn cynnal gwaith ôl-osod, byddai Adra wedi gallu sefydlu data sylfaenol ar berfformiad ynni pob eiddo. Yn anffodus, oherwydd yr amseriad o amgylch y prosiect, nid oeddem yn gallu dal data o’r cyfnod cyn y gwaith ôl-osod. Yn dilyn y gwaith ôl-osod, mae’r system ynni ddeallus yn darparu data parhaus ar sut mae’r mesurau sydd newydd eu gosod yn perfformio mewn amser real. Mae’r data hwn yn amhrisiadwy ar gyfer addasu perfformiad y system neu nodi materion yn gynnar ac roedd angen i Adra wneud rhagor o waith i ddadansoddi’r data a gasglwyd. Ymgysylltu â Phreswylwyr: Gwers allweddol oedd pwysigrwydd ymgysylltu â phreswylwyr yn gynnar ac yn barhaus trwy gydol y prosiect. Swyddog Cyswllt Tenantiaid penodedig o fewn Adra yn gweithio’n agos gyda’r tenantiaid a’r contractwyr. Roedd cyfathrebu effeithiol yn helpu i reoli disgwyliadau ac yn sicrhau bod preswylwyr yn cael gwybod sut i ddefnyddio technolegau newydd fel monitorau ynni clyfar yn effeithiol. Gweithlu mewnol: Un her allweddol oedd yr angen i uwchsgilio ac addasu’r gweithlu mewnol i osod y systemau inswleiddio waliau allanol yn effeithiol. Roedd hyn yn arbennig o arwyddocaol gan fod bwlch yn y sgiliau yn amlwg yn y sector o ran inswleiddio waliau allanol. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, roedd gan weithlu Adra fynediad at hyfforddiant trwy Hwb Datgarboneiddio Tŷ Gwyrddfai, mewn partneriaeth â Weber Saint-Gobain. Yn ogystal, roedd heriau o ran rheoli’r llwyth gwaith cynyddol gan fod Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1 yn cynnwys cynllunio helaeth a chydgysylltu contractwyr lluosog. Roedd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i dimau mewnol Adra weithio’n agos gyda phartneriaid allanol, gan sicrhau aliniad ar amserlenni a nodau’r prosiect. Er gwaethaf yr heriau hyn, helpodd ymrwymiad Adra i feithrin gweithlu sydd wedi’i hyfforddi’n dda a gwella ei alluoedd mewnol i liniaru anawsterau cyflwyno rhaglen ddatgarboneiddio gymhleth. Heriau Technegol: Amlygodd y prosiect yr angen am hyblygrwydd wrth fynd i’r afael â heriau technegol, megis amrywiadau o fewn y broses osod. Roedd angen mwy o waith helaeth ar rai cartrefi nag eraill, o gymharu â chyflwr cymharol yr eiddo, a oedd yn golygu bod angen dulliau addasol o ôl-osod. Er bod tai o fewn yr un cynlluniau yn rhannu nifer o wahanol fathau o debygrwydd, roedd bod yn effro i fân anghysondebau rhwng yr eiddo (cyn gwneud y gwaith ôl-osod) yn hanfodol i sicrhau y cedwir at yr amserlen a osodwyd ar gyfer y broses ôl-osod mor agos â phosibl.

Arloesi yn y prosiect

Cyflwynodd ein prosiect Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1 nifer o ddatblygiadau arloesol gyda’r nod o leihau allyriadau carbon a gwella effeithlonrwydd ynni mewn tai cymdeithasol: Ymagwedd Gwneuthuriad yn Gyntaf: Un o ddatblygiadau arloesol allweddol y prosiect yw ei ymagwedd gwneuthuriad yn gyntaf, sy’n canolbwyntio ar wella amlen yr adeilad (waliau, ffenestri, drysau) cyn cyflwyno technolegau newydd (fel pympiau gwres o’r aer, paneli solar ffotofoltäig a batris storio ynni ac ati). Mae’r dull hwn yn sicrhau bod y galw am ynni yn cael ei leihau, gan wneud y cartrefi’n fwy effeithlon o safbwynt thermol a lleihau’r angen am wresogi gormodol. Ymestyn Bondoeau: Mewn llawer o’r eiddo, roedd angen ymestyn y bondoeau i wneud lle i systemau insiwleiddio newydd a oedd yn gwella effeithlonrwydd thermol. Roedd ymestyn y bondoeau yn golygu newid adeiladwaith y to i sicrhau ei fod yn gwrthsefyll y tywydd yn iawn. Ymhellach, roedd ymestyn bondoeau yn dileu’r angen am gapio trimiau, a all achosi problemau mewn perthynas â dŵr yn mynd i mewn y tu ôl i’r byrddau inswleiddio. Sicrhaodd y broses hon fod y deunydd inswleiddio newydd ei osod yn effeithiol ac yn wydn, gan atal colli gwres trwy fylchau neu osod amhriodol. Er bod ychwanegu’r gwaith hwn i estyn y bondoeau yn cynyddu costau cychwynnol ac yn effeithio ar yr amserlenni, roedd yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor y gwelliannau arbed ynni ac yn helpu i gyrraedd y safonau amgylcheddol llym a osodwyd gan Adra. Systemau wedi’u rhoi ar waith (Weber) – Roedd y symudiad o ddulliau cymhwyso rendrad traddodiadol i’w gymhwyso trwy bwmpio, gan ddefnyddio system Monocouche Weber, yn ddatblygiad arloesol sylweddol. Yn draddodiadol, câi rendrad ei roi â llaw mewn haenau, a oedd yn gofyn am lafur medrus i’w gymhwyso a’i lyfnhau’n fanwl gywir. Mewn cyferbyniad, roedd y dull cymhwyso â phwmp a ddefnyddiwyd yn ystod Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1 yn caniatáu proses fwy effeithlon trwy ddefnyddio offer chwistrellu arbenigol a allai gymhwyso’r rendrad yn gyflymach ac yn fwy cyson ar draws arwynebau. Darparodd y trawsnewid hwn nifer o fanteision, gan gynnwys amseroedd cymhwyso cyflymach a’r gallu i gyflawni gorffeniad mwy unffurf. Roedd y system cymhwyso â phwmp hefyd yn caniatáu gwell rheolaeth dros drwch y rendrad, sy’n hanfodol ar gyfer sicrhau’r perfformiad thermol gorau posibl mewn prosiectau ôl-osod. Roedd y newid hefyd yn cyd-fynd â nod Adra i wella cynhyrchiant a lleihau cost gyffredinol gwaith ôl-osod wrth gynnal safonau uchel o ansawdd a gorffeniad ar gyfer gwaith inswleiddio waliau allanol.

Heriau

Er ei bod yn arloesol yn ei ddefnydd o systemau ynni deallus ac ymagweddau gwneuthuriad yn gyntaf, wynebodd Adra heriau a gyflwynwyd gan brosiect ôl-osod ar y raddfa hon: COVID – profodd Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2.1 Adra sawl her oherwydd aflonyddwch yn y gadwyn gyflenwi, yn bennaf o ganlyniad i effaith COVID-19. Achosodd y pandemig oedi a chostau cynyddol, wrth i’r cyfnodau clo, cyfyngiadau ar symud, a thagfeydd yn y cadwyn gyflenwi byd-eang effeithio ar gyflenwi deunyddiau a chynhyrchion yn amserol. Yn ogystal, roedd Adra’n wynebu anawsterau o ran rheoli’r gweithlu, gan fod tarfu ar raglenni hyfforddi, a llafur medrus yn gyfyngedig oherwydd pryderon iechyd a mesurau cadw pellter cymdeithasol. Gwaethygodd y ffactorau hyn yr her o ôl-osod cartrefi wrth gynnal cynnydd ar nodau lleihau carbon ac effeithlonrwydd ynni. Tarfu ar breswylwyr: Gall prosiectau ôl-osod sy’n cynnwys inswleiddio, ffenestri newydd a systemau ynni darfu’n fawr ar denantiaid. Mae sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosibl wrth wneud gwaith helaeth ar draws 74 o gartrefi yn her arall, yn enwedig pan fo cartrefi’n parhau i gael eu meddiannu yn ystod y gwaith ôl-osod. Roedd gosod systemau ynni ddeallus yn arbennig o anodd ar adegau oherwydd gofynion gofod ar gyfer yr offer. Roedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i denantiaid drwy eu gwneud yn ymwybodol o’r manteision hirdymor a oedd i’w hennill o’r gwaith dros dro i ôl-osod eu heiddo yn flaenoriaeth. Monitro perfformiad ynni: Mae rhan allweddol o’r prosiect yn ymwneud â monitro perfformiad ynni cartrefi ar ôl y gwaith gosod. Mae hyn yn ychwanegu haen arall o gymhlethdod gan ei fod yn gofyn am osod systemau monitro a’r gallu i ddehongli’r data i fesur llwyddiant yn gywir. Mae monitro perfformiad systemau ynni newydd yn galluogi Adra i ystyried y data, a’i ddefnyddio’n briodol ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, gyda’r gobaith o ddatblygu’n barhaus o ran pa systemau sy’n sicrhau’r effeithlonrwydd mwyaf posibl i’r tenant a’r sefydliad. Roedd mynd i’r afael â’r heriau hyn, a oedd yn amrywio drwy gydol y broses, yn hollbwysig i lwyddiant y prosiect wrth gyflawni’r nodau effeithlonrwydd ynni a amlinellwyd gan Adra cyn cyflawni’r gwaith a ariannwyd gan y rhaglen.