Neidio i’r prif gynnwys

Lleoliad

Gwesty’r Vale, Heol Hensol, Hensol, Pont-y-clun CF72 8JY

Gweld ar y map

Amser: 8.30am – 5pm

Byddwch yn cael cyfle i rannu eich profiadau, cymryd rhan mewn sesiynau a arweinir gan fynychwyr a holi ein siaradwyr arbenigol, gan sicrhau eich bod yn gadael digwyddiad TAI Cymru gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am sut i fynd i’r afael â’r materion allweddol yr ydych wedi dweud wrthym eich bod yn eu hwynebu. TAI yw eich cyfle i archwilio atebion arloesol i heriau tai modern gyda phartneriaid ar draws y sector.

Yn y neuadd arddangos, cewch gyfle i wneud cysylltiadau newydd, meithrin perthnasoedd ystyrlon ac ailgysylltu â chydweithwyr wrth fanteisio ar ein cinio a diodydd am ddim drwy gydol y ddau ddiwrnod.

Ar ddiwedd diwrnod cyntaf y gynhadledd a’r arddangosfa, bydd cinio rhwydweithio unigryw. Mae tocynnau ar gael i aelodau’r Sefydliad Tai Siartredig sy’n mynychu’r gynhadledd yn unig ar sail y cyntaf i’r felin.

*Noder mai dim ond aelodau’r Sefydliad Tai Siartredig sy’n mynychu’r gynhadledd a all fynychu’r cinio gan fod nifer y tocynnau’n gyfyngedig*

Pecyn Aelod I’r rhai nad ydynt yn aelodau
A – Pàs cynrychiolydd Am ddim i aelodau Amh.
B – Pàs cynrychiolydd a swper £75 + TAW Amh.

TAI 2024 | Sefydliad Tai Siartredig (cih.org)